Cyfrannwch

Temple_of_Peace_and_Health,_Cardiff

 

Gadael cymynrodd yn eich Ewyllys

Rydym yn ddiolchgar iawn am haelioni llawer o gefnogwyr WCIA.

39284480380_282dc3f1d6_z

Drwy gofio amdanom ni yn eich Ewyllys, rydych yn ein helpu ni i ysbrydoli dysgu a gweithredu ar faterion byd-eang ar gyfer y dyfodol.

Erbyn heddiw, yn anaml iawn y bu’r materion hyn yn fwy perthnasol i bobl Cymru. Drwy hyrwyddo sgwrsio, addysg a phartneriaethau rhyngwladol, mae WCIA yn cryfhau gallu Cymru i fod yn genedl sy’n edrych tuag allan.

Byddwch yn rhan o’n gweledigaeth – bod pawb yng Nghymru yn cyfrannu at greu byd teg a heddychlon.

Bydd eich cymynrodd yn ein helpu ni i adeiladu ar hanes 80 mlynedd o waith rhyngwladol llwyddiannus, ac yn darparu asgwrn cefn ariannol hanfodol ar gyfer ein prosiectau a’n gwaith craidd. Byddwch yn cefnogi ystod eang o bobl sy’n elwa o’n gwaith – gan gynnwys gwirfoddolwyr dawnus, disgyblion ysgol o bob oedran, a phobl mewn cymunedau lleol ar draws Cymru.

Beth bynnag yw maint eich cymynrodd, mae dewis gadael etifeddiaeth yn golygu y gallwch chi fod yn sicr y bydd yr elusennau sydd yn bwysig i chi yn cael eu cefnogi am flynyddoedd i ddod. Mae yna hefyd y potensial i arbed arian ar dreth etifeddiaeth, sydd yn gallu bod o fudd pellach i’ch anwyliaid.

Os hoffech adael etifeddiaeth i WCIA, gallwch naill ai ysgrifennu Ewyllys newydd, neu ychwanegu ‘codisil’ at eich Ewyllys presennol. Mae digon o wybodaeth ar gael ar-lein. Rydym yn eich cynghori i ymgynghori â chyfreithiwr i wneud yn siŵr bod y gwaith papur wedi’i gwblhau’n gywir.

Eich dewis chi yw p’un ai i adael:

  • swm penodol o arian, sydd yn cael ei alw’n ‘gymynrodd ariannol’,
  • canran o’ch ystâd, sydd yn cael ei alw’n ‘gymynrodd weddilliol’. Cyfrifir hyn unwaith y bydd yr holl daliadau eraill wedi’u gwneud. Neu,
  • eitem, neu ‘gymynrodd benodol’.

Os ydych chi’n penderfynu cefnogi WCIA yn eich Ewyllys, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio ein henw llawn (Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru), ein rhif elusen gofrestredig (1156822), a’n cyfeiriad (Y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3AP).

Mae’n hynod o ddefnyddiol inni wybod eich bwriadau, fel y gallwn ni ddiolch yn bersonol i chi, a sicrhau eich bod yn cael y newyddion diweddaraf am ein gwaith. Os ydych chi’n hapus i roi gwybod i ni, cysylltwch â’n Prif Weithredwr, Susie Ventris-Field, drwy ei ffonio ar 029 2022 8549 neu drwy anfon e-bost at susieventrisfield@wcia.org.uk.

Rydym yn ddiolchgar iawn i chi am ein hystyried ni yn eich Ewyllys. Os hoffech chi wybod mwy am ein gwaith, mae croeso i chi gysylltu â ni – anfonwch e-bost at centre@wcia.org.uk, neu ffoniwch 029 2022 8549, a phwyswch opsiwn 6.