Cymru dros Heddwch yn yr Wcráin
Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, ochr yn ochr â phartneriaid a chymunedau ar draws Cymru, yn gresynu at yr achosion o wrthdaro yn yr Wcráin, yn dilyn ymosodiad milwrol Rwsia. Mae Cymru a’r gymuned ryngwladol yn ymestyn ein cefnogaeth a’n hundod dyfnaf gyda phobl yr Wcráin a Rwsia ar yr adeg bryderus hon – ac yn annog ein gwleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol i fynd ar drywydd camau cadarn, sy’n canolbwyntio ar heddwch, i stopio unrhyw fath o ymddygiad treisgar, ac i gefnogi pobl gyffredin yr effeithir arnynt ar lawr gwlad.