David Davies 75: ‘Tad’ Rhyngwladol y Deml Heddwch

Mehefin 12, 2019 Craig Owen 4 o Sylwadau

Gan Craig Owen, Pennaeth Cymru dros Heddwch, WCIA

Ar 16 Mehefin 2019 – sef Sul y Tadau yn addas iawn – fe fydd hi’n 75 mlynedd i’r diwrnod ers y bu’r Arglwydd David Davies o Landinam (1880-1944), tad a sefydlydd Teml Heddwch ac Iechyd Cymru, farw.

Yn feddyliwr blaenllaw mewn rhyng-genedlaetholdeb Cymreig, a adawodd ei farc ar y genedl mewn nifer o ffyrdd, bu farw ychydig fisoedd cyn diwedd y Rhyfel Byd y bu’n ymgyrchu i’w osgoi, ac ar drothwy creu’r Cenhedloedd Unedig yr oedd wedi gweithio tuag ato am 25 mlynedd.

Etifeddiaeth David Davies

Mae David Davies yn ffigwr chwedlonol i genedlaethau lawer sydd wedi gweithio, cwrdd, ymgyrchu a gwirfoddoli yn y Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd ers iddi agor ym 1938. Mae ei enw hefyd yn anfarwoli creadigaeth Sefydliad Coffa David Davies, sy’n cael ei gadw yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Gyntaf yn y byd, a sefydlodd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1919 – sydd yn dathlu ei chanmlwyddiant eleni – ac yng Nghymrodoriaeth Ymchwil David Davies Llandinam yn LSE. Ym 1910, sefydlodd Gymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru (Brenin Edward VII), gyda’r nod o ddileu twbercwlosis a hybu iechyd y cyhoedd. Daeth yn un o gyrff sefydlu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (GIG) ym 1946-48 – oedd yn gweithredu o’r Deml Heddwch ac Iechyd. Roedd David Davies yn allweddol hefyd mewn sefydlu Cymdeithas Amaethyddol Genedlaethol Cymru (y Sioe Frenhinol bellach) ym 1904; mewn sefydlu’r Yswiriant Gwladol gyda David Lloyd George ym 1911, ac mewn sefydlu Cymdeithas Newydd y Gymanwlad ym 1932.

Mae miloedd o bobl ifanc yn parhau i gymryd rhan yng Nghlybiau Bechgyn a Merched Cymru, a sefydlodd ym 1928. Mae ei gartref, Plas Dinam, yn dal i gadw gwyliadwriaeth dros Afon Hafren yn Llandinam ym Mhowys, ar draws y dyffryn o gartref ei daid sef Broneirion, sef pencadlys GirlGuiding Cymru erbyn hyn. Mae cyn-gartref ei chwiorydd yn Neuadd Gregynog, canolfan ar gyfer y celfyddydau a’r wasg argraffu ers 1922, ac encil Prifysgol Cymru o 1963-2013, sydd bellach yng ngofal Ymddiriedolaeth Gregynog. Y tu hwnt i Gymru, mae syniadau rhyngwladol David Davies yn parhau i fyw ymlaen yn y Cenhedloedd Unedig, y Gymanwlad ac yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae Llu Cadw Heddwch y Cenhedloedd Unedig a Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, i enwi ond dau sefydliad, wedi’u seilio’n uniongyrchol ar gynigion a hyrwyddwyd ganddo rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.

 

“Lord Davies was one who stood for great ideals. He had the imagination of a poet; he saw great visions. His deep sincerity, his great generosity, his burning faith made him one of those rare beings who overcome obstacles and change the course of history.” Viscount Cecil

 

David Davies, tua 1905 – Archifau Seneddol

Pwy oedd David Davies?

Yn aml dan gysgod ei daid, hefyd o’r enw David Davies (1819-1890 – oedd yn cael ei adnabod fel ‘Top Sawyer ‘ ac a adeiladodd llawer o reilffyrdd, porthladdoedd a phyllau glo Cymru), ganwyd Davies i ‘deulu o ddyngarwyr ‘ ym 1880 – yn dal yn gadarn yn yr Oes Fictoraidd. Aeth David i Ysgol Merchiston yng Nghaeredin, cyn darllen hanes yng Ngholeg Kings, Caergrawnt. Yn Anghydffurfiwr brwd o Gymru, gyda ‘ chwerthiniad ysgubol, heintus ‘, teithiodd y byd yn helaeth yn ifanc, i Affrica, Asia a’r Amerig – gan dystio’n uniongyrchol Rhyfel Rwsia-Japan ym 1904, ac yn berchen ar fferm yn Edmonton, Alberta ( Canada). O ganlyniad, datblygodd ddiddordeb brwd mewn materion rhyngwladol, a ddaeth yn angerdd ac yn bwrpas i’w fywyd.

Ym mis Ebrill 1910, priododd Amy Penman o Lanchester, Durham, ac fe aethant ar eu mis mêl i Ddwyrain Affrica. Yn drychinebus, daliodd Amy glefyd anhysbys ar y daith hon a effeithiodd ar ei hiechyd drwy gydol y rhyfel byd. Roedd ganddynt ddau o blant, Michael (1915-1944) a Marguerite (1917-1930).  Ym 1918, bu farw Amy; Dinistriwyd David. Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, ym 1922, cyfarfu a phriododd Henrietta Fergusson o Pitlochry yn Perthshire (cafodd 4 yn fwy o blant – Mary (1923-2001), Edward (1925-1997), Islwyn (1926-2002), a Jean (1929-2011)). Daeth Henrietta yn gefnogwr brwd i David a’i achosion – a pharhaodd â’i waith ar ôl iddo farw.

Roedd David, a gafodd ei fentora a’i gefnogi gan y gwas sifil a’r dyngarwr llwyddiannus o Gymru, Tom Jones o 1910 ymlaen (sydd yn cael ei adnabod fel “TJ,” sy’n ysgrifennydd i bedwar Prif Weinidog ac sy’n cael ei ystyried un o ffigyrau gwleidyddol mwyaf dylanwadol Cymru), – ac a oedd yn cael ei alw yn ôl ei lysenwau ‘Chief’ ‘ gan ei weithwyr a ‘Dafydd Bob Man’ gan ei gyfoeswyr gwleidyddol – yn nodweddiadol am gael “egni diddiwedd”, am “feddwl ymhell o flaen ei amser a’i gyfoeswyr” ac “am gynhyrchu gwaith chwech neu wyth o bobl”. Ond y priodoleddau hyn oedd ei wendid hefyd; sylwodd Tom Jones “ei fod yn ddiamynedd pan fyddai rhywun yn mynd yn groes i’w gynlluniau neu’n eu gwrthwynebu; mae’r rhan fwyaf o ddynion ifanc cyfoethog yn dioddef o hyfforddiant diffygiol tebyg. Byddai deuddeng mis ar ddesg neu mewn pwll glo yn ei ieuenctid wedi ei ddysgu i weithio gydag eraill. “

Cyfeiriodd y beirniaid at “or-hyder, diffyg amynedd ac anoddefgarwch Davies i drafod.” O ran ei chwiorydd artistig a sensitif, Gwendoline a Margaret, gallai fod yn frawd eofn a heriol i’w ‘ reoli ‘, gan iddo geisio eu tynnu mewn i’w achosion a’i brosiectau niferus. Ond cyfaddefodd Tom Jones hefyd: “dim ond dyn o’i haelioni a’i rym allai fod wedi goresgyn y rhwystrau o ran (ei) Gysylltiadau. Ond… roedd yn eithaf tipyn o waith ei reoli. “

O ran eu cyfoeth, meddai Trevor Fishlock – awdur Bywgraffiad y chwiorydd:

“For the Davieses, their fortunes were also a covenant. They understood very well the realities of the source of their inheritance, and of the human price of coal in the Rhondda. They felt indebted… and the immensity of their fortunes frightened them. They had seen their father devastated by anxiety over money… [and had heard their stepmother say] ‘You would never grumble about having too little money, l if you knew what it was like to have too much.’”

 

Stori am Fywyd, Eto Wedi’i Hadrodd yn Rhannol?

I ddyn o’r fath lwyddiannau sylweddol, cymdeithasol a gweledigaeth o’r byd, mae’n syndod efallai, nad oes bywgraffiad wedi cael ei gwblhau hyd yn hyn o David Davies. Tan yn ddiweddar, cynhwyswyd ei brif bresenoldeb cyhoeddedig ym mywgraffiad E L Ellis Biography of Thomas Jones. Mae ei gofnod Wikipedia hyd yn oed yn rhyfeddol o brin i ddyn o’i gyflawniadau.

 

Sgript o fywgraffiad yr Arglwydd David Davies Llandinam, 1953 heb ei gyhoeddi gan Syr Charles Tennyson – wedi’i ddigideiddio yn https://www.peoplescollection.wales/items/552296

Fodd bynnag, ym 1953, fe wnaeth yr awdur Syr Charles Tennyson (1879-1977) – ŵyr y bardd llawryfog, yr Arglwydd Tennyson – ddrafftio sgript ar gyfer Bywgraffiad David Davies, sydd bellach wedi’i ddigideiddio gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn hygyrch i’r cyhoedd. Yn anffodus, ni chyhoeddwyd hwn erioed; fodd bynnag, defnyddiwyd dyfyniadau ar gyfer llyfryn llai a luniwyd ym 1995 gan Peter Lewis, Braslun Bywgraffyddol o ‘Top Sawyer’ David Davies a’r Arglwydd Davies o Landinam. (atgynhyrchwyd o Archifau’r Deml Heddwch).

Ym 1963 – i nodi 25 mlynedd ers agor y Deml Heddwch –cynhyrchodd John Griffiths ‘One Man and His Monument ‘ i’r BBC, sef darllediad radio yn dathlu bywyd yr Arglwydd Davies, gan gynnwys cyfweliadau gyda llawer o’r bobl yr oedd wedi gweithio gyda nhw, (a hyd yn oed y nyrs a fu’n gofalu amdano yn ei ddyddiau olaf) – adnodd amhrisiadwy ac yn gipolwg ar yr adeg – mae’r sgript yn parhau i fod yn archifau’r Deml Heddwch heddiw. Yn 2017, cyhoeddodd gwirfoddolwyr WCIA Maggie Smales flog yn ymateb i ‘One Man and His Monument ‘.

Mae erthygl ‘ The Peacemonger ‘ gan J Graham Jones ar gyfer y Grŵp Hanes Rhyddfrydol (Gaeaf 2000) yn cynnig trosolwg rhagorol o gyflawniadau gwleidyddol a chymdeithas David Davies.

Mae ‘ The Gift of Sunlight’ gan Trevor Fishlock, Gwasg Gomer Press, 2014 yn hunangofiant o chwiorydd David, sef Gwendoline a Margaret. Mae’r llyfr yn plethu’n hyfryd eu cyfraniad i gelfyddydau Cymru gyda hanes cymdeithasol yr oes, sydd yn cael ei ddangos gyda lluniau a chofnodion o archif y teulu – gan gynnwys llawer o adroddiadau o’u perthynas (heriol weithiau) â David, eu brawd hŷn a’i achosion niferus.

Mae ‘Pilgrim of Peace: A Life of George M Ll Davies’ gan Dr Jen Llewellyn, Lolfa Books, 2016 yn hunangofiant o gefnder David Davies, yr heddychwr, y Gwrthwynebydd Cydwybodol a’r Seneddwr George Maitland Lloyd Davies – y penododd David Davies yn Ysgrifennydd i oruchwylio ei elusennau ar dwbercwlosis (WNMA) a thai (Ymddiriedolaeth Cynllunio Trefi a Thai Cymru).

 

Gyrfa Wleidyddol

Yn etholiad ysgubol 1906, etholwyd David Davies yn Aelod Seneddol y Blaid Ryddfrydol dros Sir Drefaldwyn, sedd a ddaliodd nes iddo sefyll i lawr ym 1929.

Fel AS anghonfensiynol, nid oedd yn hoff o weithdrefnau a manylion seneddol, a dargyfeiriai’n  rheolaidd o ‘safbwynt y blaid’ yn yr hyn yr oedd yn ei ystyried oedd o’r budd gorau i bobl Cymru a materion byd-eang. Ym mis Mehefin 1918, noddodd gynhadledd genedlaethol yn Llandrindod i drafod ‘mesur o ddatganoli i Gymru ‘, – ni chafodd gefnogaeth cydweithwyr. Ym 1925 – er ei fod yn berchennog ar Gwmni Glo’r Rhondda – cefnogodd weithwyr oedd yn galw am ddiwrnod gwaith saith awr. Ymgyrchodd yn chwyrn yn erbyn yr “ysbryd drwg sy’n ymddangos fel pe bai’n plagio pob un o’r perchnogion glo” a diffyg cymodi’r Llywodraeth ynglŷn â Chomisiwn Mwyngloddio Samuel, gan geisio cynnwys y Sefydliad Llafur Rhyngwladol wrth osgoi’r hyn a ddaeth yn Streic gyffredinol Drychinebus 1926.

Er gwaethaf y berthynas elyniaethus hon gyda pheirianwaith y pleidiau gwleidyddol, roedd safle Davies yn ei etholaeth yn anorchfygol. Roedd mor boblogaidd, nes i’r wasg Geidwadol leol gwyno ym 1913 ynghylch  “cwlt y David Davies-ism … does ganddynt ddim yn gyffredin â’r ‘Sosialaeth Radicalaidd ‘ sy’n cuddio’r dyddiau hyn o dan enw (ei) ‘Rhyddfrydiaeth’. Yn nhermau heddiw, byddai ei gredoau a’i ddiddordebau’n pontio’r sbectrwm gwleidyddol: yn rhyng-genedlaetholwr rhyddfrydol, yn hyrwyddwr ceidwadol mentergarwch rhydd a hela, ac yn eiriolwr dros hawliau gweithwyr, gofal iechyd cyffredinol a thai cymdeithasol, ac fe siaradai’n aml yn erbyn y sefydliad. Yng nghyd-destun yr Ymerodraeth Edwardaidd, roedd yn rebel.

 

Rhyfel Byd Cyntaf

Roedd dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ym mis Medi 1914, fel gyda phob aelwyd ar draws Cymru, wedi trawsnewid bywyd a gweithgareddau’r teulu Davies.

David Davies, fel Prif Swyddog yn Ffiiwsiliwyr Brenhinol Cymreig

I ddechrau, taflodd Davies ei egni nodweddiadol i mewn i recriwtio a chodi bataliwn, y 14eg Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (Caernarfon ac Ynys Môn), y daeth yn is-gyrnol.  Ar ol ei ffurfio ar 2 Tach 1914 yn Llandudno a’r hyfforddiant trwyadl yn Eryri, hwylion nhw i Ffrainc ym mis Rhagfyr 1915, i ffosydd y Ffrynt Gorllewinol o gwmpas Givenchy.

Ond cafodd Davies ei arswydo gan ei brofiad yn y ffosydd. Ar ôl iddo ddychwelyd ym 1916, soniodd yn Nhŷ’r Cyffredin am newidiadau yn y strategaeth ryfel, i wyrdroi’r hyn a welai fel gwastraff “anferthol, arswydus a diangen o fywyd” a’r “budreddi, baw a diffyg cyflenwadau y rhoddwyd ein dynion trwyddynt”.

Ym mis Mehefin 1916, galwyd David Davies yn ôl i Loegr i ddod yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i’r Gweinidog Rhyfel David Lloyd George, ac yn ystod mis Rhagfyr 1916, roedd Davies yn un o dri ‘phrif     drefnydd ‘ yn ysgogi cefnogaeth i Lloyd George i gymryd lle Herbert Henry Asquith fel Prif Weinidog ac arweinydd rhyfel – yr unig Gymro i fod wedi cynnal uwch-gynghrair y DU. Yn fuan iawn, daeth Davies yn rhan o gylch mewnol Lloyd George, a oedd yn cael ei ystyried yn “Gymro ifanc siaradus, cyfoethog a hwyliog, ac roedd ei gyfeillgarwch a’i glecs yn rhoi cryn bleser iddo yn ystod y cyfnod hwn”.

Ond yn fuan iawn, achosodd profiad Davies o’r ffosydd, a’i adborth didwyll o onest i’r Prif Weinidog ar gynnal yr ymdrech ryfel, rwyg rhyngddynt. Ar 24 Mehefin 1917, gollyngodd Lloyd George ei sioc ei hun:

“[opponents say I am] ‘sheltering’ in a soft job a young officer of military age and fitness… In my judgment you can render better service to your country as a soldier than in your present capacity.” Nodyn diswyddo David Lloyd George i David Davies, 24 Mehefin 1917

 

 Gwaelod: David Davies yn ystod Gwasanaeth Milwrol y Rhyfel Byd Cyntaf; Gwendoline & Margaret (Daisy) Davies cyn y Rhyfel Byd Cyntaf; cefnder George M Ll Davies, gwrthwynebydd cydwybodol y Rhyfel Byd Cyntaf. Top: George M Ll Davies yn ystod ei wasanaeth milwrol; Gwen a Daisy yn nyrsio ar y blaen yn Troyes, Ffrainc; cefnder Edward Lloyd Jones, a fu farw yn Gallipoli, 1915.

Bwrdd Bwyta a Chenedl wedi’i Rhannu

 

Erbyn 1917, roedd brwdfrydedd y genedl dros ryfel ‘a ddylai bara ychydig fisoedd yn unig ‘ wedi cael ei leihau rhywfaint gan y colledion trychinebus a deimlwyd ym mhob cymuned. Cynrychiolai’r teulu Davies ficrocosm o genedl Cymru – wedi’i rannu gan ryfel ond wedi’i uno yn eu hawydd am heddwch.

Roedd ei gefnder Edward Lloyd Jones wedi cytuno o’i anfodd –a braidd yn amheus o’r rhyfel – ac fe’i laddwyd ar faes y gad yn Gallipoli ym mis Awst 1915. Yn ddiweddarach, lladdwyd ei frawd Ivor Lloyd Jones yn Gaza, Palesteina ym mis Mawrth 1917. Achosodd marwolaethau eu cefndryd agos boen mawr i David a’i chwiorydd.

Roedd ei gefnder George Maitland Lloyd Davies wedi ymuno â’r Fyddin Diriogaethol yn y lle cyntaf ym 1909, ond wrth i’r Rhyfel Byd Cyntaf agosáu, ni allai gysoni’r rhyfel gyda dysgeidiaeth Crist ‘ na ladd ‘. Gan anobeithio wrth gyfethol eglwysi a dynion o ffydd fel pulpud recriwtio, helpodd i sefydlu Cymdeithas y Cymod, Cymrodoriaeth y Cymod, ym 1914 – ac o 1916, cafodd ei garcharu fel Gwrthwynebydd Cydwybodol a gwrthwynebydd rhyfel.

Cefnogodd chwiorydd David, sef Gwendoline a Margaret (Daisy) Davies y swyddi gwahanol yr oedd eu cefndryd wedi’u cymryd, yn ogystal â’u brawd David; ond gwnaethant hefyd greu eu cyfraniadau penodol eu hunain at feithrin heddwch yn y Rhyfel Byd Cyntaf.  Ym mis Awst 1914, fe wnaethant drefnu ac ariannu’r broses o wacáu 91 o artistiaid a cherddorion oedd yn ffoaduriaid o wlad Belg i Aberystwyth ar y cwch ‘olaf ond un i ddianc’. Ym 1916, fe aethant ar drywydd David i Ffrainc fel gwirfoddolwyr gyda Phwyllgor Llundain y Groes Goch Ffrengig, lle sefydlwyd ffreutur ganddynt yn Troyes yn agos at ffrynt Brwydr Verdun, i gefnogi milwyr oedd yn teithio i’r ffrynt ac yn dychwelyd oddi yno.

Clawr llyfryn yn coffáu Aduniad 14eg Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig David Davies yn Llandinam ym 1937.

Er ei ddirmyg am y rhyfel, arhosodd David Davies yn agos at y milwyr, ac yn eiriolwr dros y milwyr y bu’n gwasanaethu gyda nhw rhwng 1914-16.  Ugain mlynedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, cynhaliodd aduniad ar dir ei gartref yn Llandinam rhwng 30 Gorffennaf – 4 Awst 1937, i’r dynion oedd wedi goroesi 14eg Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Yn ddiweddar, canfuwyd Programme for the 20th Reunion Week a Reunion Memento Booklet gan yr Arglwyddes Davies, a sicrhaodd fod y rhain ar gael i’w digideiddio ar Gasgliad y Werin Cymru – yn cyfleu ysbryd eu Cofio a’u hymrwymiad i adeiladu byd gwell.

“In the silent moments of our remembrance, we confronted the great phantom host which included the dearest friends of our youth. They would have become restive at the thought of what we – who know what war means – are now doing to save their dear ones from a similar fate… They say:
“What are you doing about it all? Is it to be nothing… but the laying of wreaths and blowing of last posts?”

 

Ar Ôl y Rhyfel Byd Cyntaf: Ymgyrchydd Heddwch

Ym mis Awst 1918 – tri mis cyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf – aeth David Davies ar y llwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Castell-nedd, i alw am sefydlu ‘ Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru ‘ – hyd yn oed cyn Cynghrair y DU – i gefnogi egni cymunedau Cymru gyfan yn mynd ar drywydd heddwch byd. Fe’i gefnogwyd ar unwaith gan bobl yn cofrestru o’r Maes a thu hwnt:

“At the National Eisteddfod, David Davies first suggested the formation of the Welsh League of Nations Union, saying that Wales had an important role to play in the campaign for world peace. As the Union was formed in 1918 it had 3,217 members, but by 1922 this had grown dramatically to over 200,000. In 1920, Davies donated £30,000 to set up an endowment fund to establish a Welsh National Council of the League of Nations Union. By 1922 it had 280 local branches, and by 1926 the number had grown to 652.” Elgan Phillips. ‘When Aberystwyth hosted a Peace Congress

Ym 1919, fe wnaeth David Davies a’i chwiorydd waddodi Cadair Woodrow Wilson ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan sefydlu Cadair gyntaf y byd a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol  “in memory of those students who perished in the conflict, to foster the study of the inter-related problems of law and politics, ethics and economics, raised by the project of the League of Nations.”

Blwch llythyrau WLoNU yn y Deml Heddwch heddiw.

Er bod Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru wedi dechrau ar ei waith ym mis Mai 1920, doedd dim llawer o gynnydd wedi cael ei wneud erbyn 1922 -er gwaethaf y galw ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf am heddwch. Gyda’i egni nodweddiadol, penododd David Davies staff newydd ym mis Ionawr 1922, a welodd y Parch Gwilym Davies hanesyddol yn cael ei benodi’n Llywydd Anrhydeddus i gydlynu gweithgareddau’r gynghrair yng Nghymru – galwodd am gynhadledd sefydlu yn Llandrindod ar gyfer Pasg 1922, a rhoddodd £30,000 i sefydlu cronfa waddol, a’i thrawsnewidiodd yn un o’r cyrff cymdeithas sifil mwyaf dylanwadol yng Nghymru drwy gydol y 1920au.

 

Erbyn 1929, roedd Canghennau Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yn y rhan fwyaf o gymunedau-794 o ganghennau oedolion a 202 o ganghennau iau, yn ôl Adroddiad Blynyddol 1928-9 WLoNU, gydag aelodaeth gyfunol o 56,606 o ymgyrchwyr heddwch. Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da y Bobl Ifanc a sefydlwyd ym 1922 yn parhau i gael ei darlledu’n flynyddol heddiw; Denodd Deiseb Heddwch Menywod America 1923-4 390,296 o lofnodwyr, ac fe’i cyflwynwyd i Arlywydd UDA, Calvin Coolidge ym mis Mawrth 1924. Ym 1926, gwelodd Pererindod Heddwch Menywod Gogledd Cymru 2,000 o fenywod o Benygroes yn Sir Gaernarfon yn gorymdeithio i Lundain, yn galw am “GYFRAITH NID RHYFEL.” Roedd Pwyllgor Cynghori ar Addysg Cymru, yr oedd y chwiorydd Davies yn ei gefnogi, wedi datblygu’r cwricwlwm ‘ addysg heddwch ‘ cyntaf yn y byd “i addysgu egwyddorion Cynghrair y Cenhedloedd yn ein hysgolion.”

Yn 1926, cyflawnodd Davies y gamp ryfeddol o gynnal Cyngres Heddwch Rhyngwladol Cynghrair y Cenhedloedd yn Aberystwyth – gan gadarnhau rôl Cymru fel arweinydd ym maes adeiladu heddwch rhyngwladol.

Mae cyfres lawn o Adroddiadau Gweithgarwch Cynghrair y Cenhedloedd Cymru o’r 1920au a’r 1930au wedi cael eu digideiddio gan wirfoddolwyr prosiect Cymru dros Heddwch WCIA, ac maen nhw’n cynnig ffynhonnell gyfoethog o ymchwil yn y dyfodol i effaith gymdeithasol yr Undeb yng Nghymru.

‘Teml dros Heddwch’

Yn wreiddiol, roedd Davies wedi cynnig y syniad o ‘ Deml Heddwch ‘ ar safle Devonshire House yn Llundain, ym 1919. Fodd bynnag, erbyn diwedd y 1920au, drwy ymdrechion adeiladu heddwch Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, roedd ganddo fudiad torfol y tu ôl iddo.

Lluniau’r Pensaer Percy Thomas ar gyfer y Deml Heddwch arfaethedig, 1929

Yn ystod y 1920au, roedd y teulu Davies wedi cefnogi creu Llyfr Coffa Cenedlaethol Cymru i gofio’r rheiny a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn gweithredu fel y rhestr alw ar gyfer y 35,000 o ddynion a menywod ac sydd wedi cael eu rhestru ar Gofeb Rhyfel Cenedlaethol Cymru – a ddadorchuddiwyd gan Edward, Tywysog Cymru ar 28 Mehefin 1928 – mae’r llyfr yn waith o gelf mewn lledr Moroco, eurwaith, felwm a chaligraffi canoloesol (yn yr arddull a hyrwyddir gan Wasg Gregynog).

Cyhoeddodd Davies ei weledigaeth ar gyfer ‘ Teml Heddwch ‘ i gartrefu Llyfr y Cofio mewn cell bwrpasol, ac i ddwyn ynghyd cenedlaethau’r dyfodol i weithio tuag at adeiladu byd gwell o heddwch, iechyd a chyfiawnder er cof am y rheiny a fu farw. Erbyn 1929, roedd y pensaer o Gymru, Percy Thomas, wedi cael ei gomisiynu i ddylunio gweledigaeth Davies, ac fe gynhyrchodd luniadau penseiri llawn, adroddiad manwl a model pensaer hyd yn oed, o’r hyn a fyddai’n dod yn un o adeiladau mwyaf nodedig Canolfan Ddinesig Caerdydd.

Fodd bynnag, ym 1930, tarodd y Dirwasgiad Mawr y DU – gan effeithio’n fawr ar y ddau gynllun adeiladu ar gyfer y Deml Heddwch, a hefyd, ar y gwaith ymgyrchu i gefnogi Cynghrair y Cenhedloedd, a ddechreuodd golli hyder y cyhoedd, yn enwedig yn dilyn Gwrthdaro Manchuria ym 1931. Cafodd Davies, a wrthodwyd fel ‘unigolyn llawn gweledigaeth ac anymarferol’ gan lawer o gydweithwyr, ei lesteirio, gan pa mor barod oedd pobl i dderbyn y dirywiad cyflym mewn cysylltiadau rhyngwladol, a’r cynnydd mewn militariaeth a ddilynodd y cwymp economaidd.

“We are prepared to die for our country; but God forbid we should ever be willing to think for it.” David Davies, 1931.

Ar ôl camu lawr o’r Senedd ym 1929, gweithiodd Davies yn ddiflino i wrthdroi’r besimistiaeth yn erbyn Cynghrair y Cenhedloedd. Sefydlodd Gymdeithas newydd y Gymanwlad, ac ysgrifennodd yn eang ar gyfer Welsh Outlook, Manchester Guardian a The Times, gan ysgrifennu nifer o lyfrau sy’n parhau i fod yn waith arloesol ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol:

‘The Problem of the Twentieth Century‘, 1930
An International Police Force, 1932

  • ‘Force’, 1935
  • Letters to John Citizen, 1936
  • ‘Federated Europe’, 1940
  • The Foundations of Victory, 1941
  • The Seven Pillars of Peace, 1943

 

“We shall never get real prosperity and security until we get peace, we shall never get peace until we get justice, and we shall get none of these things until we succeed in establishing the rule of law by means of the creation of a really effective international authority equipped with those two vital institutions, an equity tribunal and an international police force.” David Davies, ‘the Problem of the 20th Century’, 1930

Ym 1933, cydnabuwyd gwaith Davies ym maes adeiladu heddwch gan Lywodraeth Genedlaethol Ramsey MacDonald gyda’i ddyrchafiad i’r arglwyddiaeth, fel y Barwn Cyntaf, yr Arglwydd Davies o Landinam.

Yn pryderu am y cynnydd mewn ailarfogi gan genhedloedd ar draws Ewrop, noddodd Davies ‘Ymgyrch Bleidlais Heddwch ‘ aruthrol 1934-5, lle cyflawnodd Cymru – yn bennaf oherwydd dylanwad Davies – y 12 canlyniad uchaf ar gyfer siroedd y DU, gyda’r nifer oedd yn pleidleisio yn fwy na 90% o blaid stopio’r ras arfau a oedd yn bygwth achosi rhyfel byd arall.

Ym 1934, camodd mewn i’r ‘toriad ‘ ariannol, drwy roi £58,000 (£4, 04 miliwn ar werthoedd 2019), i alluogi’r gwaith o adeiladu’r Deml Heddwch i ddatblygu’n gyflym.

Ar 8 Ebrill 1937, arweiniodd Davies y seremoni ar gyfer gosod y Garreg Sylfaen ar gyfer y Deml Heddwch, ochr yn ochr â’r Ysgrifennydd Tramor yr Arglwydd Halifax (edrychwch ar y lluniau a’r darnau o’r wasg). Yn dilyn gwaith adeiladu anhygoel o gyflym ond o ansawdd uchel, a wnaed yn bosibl trwy ‘ Gronfa Sinc ‘ Davies, roedd y Deml yn barod o fewn 18 mis.

Ar 23 Tachwedd 1938, bythefnos ar ôl 20fed Diwrnod y Cadoediad, agorodd Teml Heddwch Cymru i seremoni a chanmoliaeth aruthrol. Mewn un arall o ‘syniadau gwych’ Davies – ar ôl gwrthod gwahoddiad i’r Dywysoges Elizabeth ifanc agor yr adeilad – roedd yn teimlo ei bod yn fwy priodol y dylai ‘gwraig dlotaf gweithiwr glo’ (mwyngloddiwr) gael yr anrhydedd, a chynrychioli’r menywod, mamau a gwragedd oedd wedi colli anwyliaid yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac sydd wedi arwain ymdrechion i adeiladu heddwch yn y blynyddoedd ers hynny. Tynnodd y sylw am ‘ famau mwyaf trasig’ y Rhyfel Byd Cyntaf sylw’r wasg yn fawr, a chyhoeddusrwydd ar draws y byd ar gyfer y seremoni. Daeth Minnie James o Ddowlais yn ‘ fam Cymru ‘, ac agorodd y Deml gydag allwedd aur, gan arwain 20 o ferched eraill o bob rhan o Brydain a’r ymerodraeth i mewn.

  • Ffilmiau sinema o’r seremoni agoriadol
  • Pecyn y Wasg a Lluniau o’r agoriad
  • Darnau o’r Wasg o’r Digwyddiad Agoriadol (gallwch weld y lluniau yma)
  • ‘A New Mecca’: Hanes y Seremoni Agoriadol
  • Western Mail Souvenir supplement, 24 Tach 1937
  • Casgliad o ddogfennau wedi’u digideiddio o seremoni agoriadol y Deml Heddwch ym 1938 ar Gasgliad y Werin Cymru
  • Blog gan Gymrawd yr Academi Brydeinig, Dr Emma West, ar ailgynnau ‘ A New Mecca’ ar gyfer heddiw

O edrych yn ôl, mae’n amlwg y byddai dechrau’r Ail Ryfel Byd ym 1939 wedi atal prosiect o’r fath rhag mynd yn ei flaen. Heb ragwelediad ac ymyrraeth ariannol Davies, ni fyddai’r Deml – a’r holl waith sydd wedi mynd ymlaen dros yr 80 mlynedd ers hynny – fyth wedi cael ei wneud. Roedd gan Davies weledigaeth i hwn fod y cyntaf mewn nifer o ‘ Demlau Heddwch ‘ ar draws y byd, a gweithio fel cymdeithas sifil i osgoi gwrthdaro a meithrin dealltwriaeth. Ni allwn ond dyfalu beth y gallai ei weledigaeth fod wedi ei gyflawni petai’r Ail Ryfel Byd heb amharu ar ei freuddwyd fawr.

‘One Man and his Monument’: Mae’r Arglwydd Davies yn edrych dros Neuadd y Cenhedloedd yn Nheml Heddwch Cymru hyd heddiw.

“I can assure you, my friends, that this building is not intended to be a mausoleum, and because at the moment dark clouds overshadow Europe and the world, that is no reason why we should put up the shutters and draw the blinds. On the contrary, in a world of madmen let us display constancy and courage. Let us as individuals and as a nation, humbly dedicate ourselves anew to the great task still remaining before us.” David Davies yn nigwyddiad agoriadol Teml Heddwch Cymru

Ym mis Tachwedd 2018, trefnodd WCIA raglen mis o hyd ar gyfer Teml80 a WW100, yn dathlu etifeddiaeth cofeb ryfeddol David Davies a’r mudiadau a ysbrydolodd.

 

Trasiedi yr Ail Ryfel Byd

O fewn blwyddyn, aeth y Deml Heddwch yn ‘segur’ yn sgil dechrau’r Ail Ryfel Byd ym mis Medi 1939.

Er bod Davies ei hun bellach yn rhy hen i wasanaethu yn y fyddin; cofrestrodd ei fab Michael gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Bu Davies yn dadlau’n ffyrnig o blaid mentrau a allai droi cwrs y rhyfel, neu sicrhau heddwch cadarn a pharhaus ar ôl i’r gwrthdaro ddod i ben. Gan ofni’r posibilrwydd o golli’r teulu oedd ganddo’n weddill, gyda thristwch mawr – ac i gyndynrwydd mawr ei wraig ymroddedig, Henrietta – trefnodd iddynt fyw yng Nghanada am weddill y rhyfel. Rhoddodd David eu cartref, sef Plas Dinam, drosodd i Ysgol Gordonstounm, a symudodd o Elgin yng Ngogledd Ddwyrain yr Alban i Bowys drwy gydol yr Ail Ryfel Byd.

Mae Lord Davies – the Last Mission gan H Granville Fletcher yn adroddiad hynod ddiddorol ar un o ‘ymdrechion olaf’ Davies i osgoi gwrthdaro’r Ail Ryfel Byd, pan deithiodd i’r Swistir ym mis Hydref 1939 – yn dilyn achosion o elyniaeth – er mwyn perswadio’r meistr diwydiannol o’r Almaen, Thyssen, i dorri’r cyflenwad o arfau i fyddinoedd Hitler. Profodd hyn yn aflwyddiannus, pan ddarganfuodd bod Thyssen ei hun wedi ffoi oddi wrth Hitler ac yn ddyn yn eisiau; ond fe lwyddodd i gyrraedd yn ôl gartref i’r DU.

Roedd straen y rhyfel a’r ffaith iddo gael ei wahanu oddi wrth ei deulu wedi effeithio ar iechyd David Davies, ac erbyn 1943, roedd yn teimlo’n sâl iawn.

 

Y Llun Olaf

David Davies (1880-1944), Arglwydd Davies 1af Llandinam, wedi’i beintio gan Sam Morse-Brown; o gasgliad Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Ym mis Chwefror 1944, noddodd (trwy ei gymdeithas Goffa Genedlaethol Gymreig yn y Deml Heddwch) fflyd o unedau radiograffeg symudol a fyddai’n chwyldroi sganio pelydr-X ar gyfer Twbercwlosis a Chanser. Mynychodd lansiad y ddarpariaeth iechyd arloesol hon yn Ysbyty Sully, a gwirfoddolodd i gael y sgan cyntaf. Darganfuwyd fod ganddo ganser datblygiedig o’r asgwrn cefn. Cafodd ei wraig a’i ferch eu smyglo ar long gario’r Llynges o Ganada ar draws yr Iwerydd, trwy sianeli yn llawn cychod tanfor, i dreulio eu dyddiau olaf gyda’i gilydd.

Bu farw dim ond pedwar mis yn ddiweddarach, ar 16 Mehefin 1944, yn ddim ond 64 oed, dim ond 14 mis cyn diwedd yr Ail Ryfel Byd. Gwasgarwyd ei ludw ymhlith y rhedyn ar y bryn roedd yn ei garu uwchben Plas Dinam.

Ond cafodd David ei arbed o’r gofid o golli ei fab, Michael, dim ond 3 mis yn ddiweddarach. Lladdwyd Michael Davies, a oedd wedi etifeddu teitl 2il Barwn Llandinam, ei ladd ar faes y gad gyda’r 6ed Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar 25 Medi 1944 wrth i’r Iseldiroedd gael ei rhyddhau.

 

Gweithio o Uwchben

Ni ellir helpu ond tybio a gafodd David Davies ei alw i’r ‘pyrth perlog’ i gwblhau ei genhadaeth o uwchben. O fewn ychydig flynyddoedd o’i farwolaeth, fe wnaeth llawer o’r achosion a’r syniadau a roddodd ei holl fywyd tuag atynt, ddwyn ffrwyth:

  • Ym 1946, trefnodd Cymdeithas Cenhedloedd Unedig Cymru newydd ei lansio – olynydd i Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru – dan arweiniad y Parch Gwilym Davies (roedd David Davies wedi buddsoddi ei hyder magu heddwch ynddo o’r 1920au) wasanaeth coffa i David Davies yn y Deml Heddwch, ac Apêl Goffa David Davies i ailadeiladu ei fudiad adeiladu heddwch ar gyfer cyfnod newydd ar ôl y rhyfel.
  • Ym 1946, sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig – cafodd ei ysgrifenyddiaeth ei sefydlu gan Gymry a oedd yn gyfoeswyr i David Davies – a chafodd ei syniadau eu hymgorffori yn Llu Cadw Heddwch y Cenhedloedd Unedig, mewn Tribiwnlys Ecwiti yng Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, ac yn y sefydliad Addysg Rhyngwladol UNESCO.
  • Byddai’r Deml Heddwch ac Iechyd yn dod yn bwerdy i berthynas Cymru â’r byd trwy Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig ac (o 1973) Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, yn ogystal â Gwirfoddoli Ieuenctid Rhyngwladol drwy Cyfnewid UNA.
  • Ym 1947, daeth y Deml Heddwch ac Iechyd yn gartref trosiannol hefyd, i egin Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, lle amsugnwyd Cymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru Davies-gan wireddu ei uchelgais o ddarparu gofal iechyd cyffredinol i bob dyn, menyw a phlentyn. Aeth ymlaen i gartrefu Bwrdd Iechyd Morgannwg ac yn fwy diweddar, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Penddelw efydd Arglwydd Davies gan Syr Goscombe yn y Deml Heddwch

Heddiw, yn y Deml Heddwch ac Iechyd, mae penddelw efydd hardd o David Davies gan y cerflunydd hynod, Syr Goscombe John o’r 1930au yn cael ei arddangos uwchben y fynedfa i Neuadd y Cenhedloedd, ynghyd â Chofeb lledr a gyflwynwyd iddo ym 1935 i gydnabod ei gyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru a’i genhadaeth am heddwch.

Ond ar 75ain canmlwyddiant ei farwolaeth, efallai mai etifeddiaeth fwyaf David Davies yw cenedlaethau o actifyddion heddwch a rhyngwladolwyr sydd wedi cael eu hysbrydoli gan ei weledigaeth i adeiladu byd gwell, o’r Rhyfel Byd Cyntaf hyd heddiw – ac heb os nac oni bai, bydd ei ysbryd mentrus yn parhau i fyw ymlaen yn y Deml Heddwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Rhagor o Wybodaeth

Ymunwch â Darlith Gŵyl Gregynong ‘ Peace 100 ‘ WCIA ar 29 Mehefin 2019, sy’n dathlu canmlwyddiant Cytundeb Heddwch Paris yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

  • Archwiliwch Archifau David Davies Llandinam yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd hefyd yn ffurfio casgliad pwysig yn Archif Wleidyddol Cymru.
  • Darllenwch ‘ The Gift of Sunlight ‘ gan Trevor Fishlock, Gwasg Gomer Press, 2014
  • Darllenwch ‘ Pilgrim of Peace: A Life of George M LL Davies ‘ gan Dr Jen Llewellyn, Lolfa Books, 2016

Ynghylch yr Awdur

Craig Owen ydy Pennaeth Cymru dros Heddwch, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.  Gellir cysylltu â Craig drwy e-bost:  craigowen@wcia.org.uk.

Hoffai Craig fynegi ei ddiolch i’r teulu Davies, yn arbennig i Bea a Daniel Davies, am eu cyfraniadau a’u caniatâd i rannu stori a deunyddiau David Davies o archif y teulu; ac i wirfoddolwyr a phartneriaid prosiect Cymru dros Heddwch WCIA, sydd rhwng 2015-18, wedi casglu straeon Etifeddiaeth Heddwch Cymru.

 

Trydar: @WalesforPeace

Facebook: @Cymru dros Heddwch / Wales for Peace