Deunyddiau Archif wedi’u Digideiddio Archwiliwch dros 1,450 o ddogfennau o Dreftadaeth Heddwch Cymru, wedi'u trefnu'n gasgliadau thematig ac wedi'u tagio'n gynhwysfawr ar gyfer eu chwilio - ymhlith adnoddau ehangach o dros 124,000 o eitemau chwiliadwy o dreftadaeth gymunedol Cymru. Casgliad y Werin Archwiliwch a defnyddiwch ein banc o dros 6,000 o ddelweddau o brosiectau a digwyddiadau cymunedol Cymru dros Heddwch a Threftadaeth Heddwch Cymru - gan gynnwys dogfennau archif sydd heb eu digideiddio ar Gasgliad y Werin eto. Albymau Flickr Gallwch glywed rhai o 'Leisiau'r Deml', cyfweliadau hanesion llafar a gasglwyd yn 2018-19 gydag unigolion ysbrydoledig sy'n rhannu eu hatgofion a'u profiadau o'r 'lleoliad gyda chalon' eiconig yma. Hanesion Llafar o'r Deml Heddwch Chwiliwch drwy ein Map Heddwch i ddod o hyd i straeon treftadaeth heddwch a gweithgareddau prosiect o bob rhan o Gymru Map Heddwch Cymru Gwrandewch ar recordiadau o ddarlithoedd, cerddoriaeth / barddoniaeth / darlleniadau, a darllediadau radio ar faterion treftadaeth Heddwch Cymru gan Gymru dros Heddwch Soundcloud - Darllediadau a Recordiadau Sain Archwiliwch dros 100 o fideos, straeon digidol a chasgliadau ffilm a grëwyd gan gymunedau, gwirfoddolwyr a phartneriaid Cymru dros Heddwch am faterion Treftadaeth Heddwch o'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Fideos YouTube a Straeon Digidol Chwiliwch drwy'r 40,000 o enwau yn Llyfr y Cofio Cymru o'r Rhyfel Byd Cyntaf, wedi'u trawsgrifio gan wirfoddolwyr a'u digideiddio mewn partneriaeth â'r Llyfrgell Genedlaethol Chwilio drwy Lyfr y Cofio Chwiliwch drwy'r Gofrestr Heddwch o Wrthwynebwyr Cydwybodol y Rhyfel Byd Cyntaf, sef cronfa ddata o dros 900 o Wrthwynebwyr Cydwybodol o Gymru a'r Gororau a oedd yn gwrthwynebu'r Rhyfel, a ymchwiliwyd dros gyfnod o chwarter canrif gan Cyril Pearce (gyda diolch iddo) Chwilio drwy Gofrestr o Wrthwynebwyr Cydwybodol y Rhyfel Byd Cyntaf Edrychwch ar ein llinell amser ryngweithiol o hanes Neges Heddwch ac Ewyllys Da Ieuenctid Cymru ar Sutori Llinell amser ar Sutori Edrychwch ar gyflwyniadau rhyngweithiol/animeiddio Cymru dros Heddwch ar Prezi Cymru dros Heddwch ar Prezi