Mae’r dudalen hon yn rhoi cyfarwyddyd manwl i gystadlu ym Mhencampwriaeth Ddadlau Ysgolion Cymru.
Os nad ydych chi wedi cystadlu yn Bencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru o’r blaen, neu os ydych chi wedi ac yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau; darllenwch yr isod am gefnogaeth.
Canllawiau sylfaenol: Awgrymiadau Gwych i Ddadleuwyr
Mae pob ysgol sy’n cystadlu yn ein twrnamaint bellach yn cael set o 10 o gardiau, sy’n rhoi’r holl wybodaeth a’r cyngor sylfaenol a fydd yn eich helpu i lwyddo yn y twrnamaint. Mae’r cardiau’n hawdd eu llungopïo, a gellir eu torri a’u defnyddio’n ‘gardiau awgrym’ ar gyfer sesiynau ymarfer. Gallwch lawrlwytho fersiynau lliw yma:
Canllawiau manwl: Llawlyfr Dadlau
Hon yw’r fersiwn ddiweddaraf o’n Llawlyfr Dadlau llawn, sydd ar gael bellach yn adnodd ar-lein yn unig. Bydd y Llawlyfr yn eich helpu i ddeall yn fanwl pa bethau y bydd beirniaid yn chwilio amdanynt mewn dadl lwyddiannus. Mae hefyd yn darparu rheolau llawn Pencampwriaeth Ddadlau Ysgolion Cymru, cyngor i feirniaid a chadeiryddion dadlau, a chanllawiau i sefydlu clwb dadlau yn yr ysgol.
- Llawlyfr Dadlau 2018 (dogfen Word, 144Kb)
Pynciau ar gyfer y dadleuon
Cymerwch gip olwg ar cyn-bynciau ar gyfer y dadleuon ar gyfer eich gwybodaeth.
DVD Hyfforddiant Dadlau
Mae’r DVD hwn, a gynhyrchir gan Media4Schools, yn cynnwys dadl gyfan yn fformat Pencampwriaeth Ddadlau Ysgolion Cymru. Roedd y myfyrwyr ynddo, sy’n dadlau’r cynnig “Byddai’r Tŷ hwn yn cyd-drafod gyda therfysgwyr”, yn gystadleuwyr ym Mhencampwriaeth y Byd 2008. Ceir cyflwyniad gan eu hyfforddwr, ac mae is-deitlau esboniadol yn amlygu nodweddion pwysig ar y ddadl. I brynu copi, anfonwch e-bost atom.
Pris: £8 y copi (Aelodau) / £10 y copi (Pawb arall), gan gynnwys costau postio