Adnoddau Ysgol Heddwch

11399606184_e3003a597b_z

Un o amcanion tymor-hir y prosiect Cymru dros Heddwch yw creu ‘Cynllun Ysgolion Heddwch’ yng Nghymru. Bydd union natur y cynllun hwn yn cael ei archwilio a’i ddatblygu wrth wireddu’r prosiect, ond gall ‘ysgol heddwch’ gynnwys yr elfennau canlynol:

  • archwilio a rhannu treftadaeth Cymru trwy brofi a defnyddio adnoddau cwricwlwm sydd yn gysylltiedig â hanesion unigolion a grwpiau sydd wedi hyrwyddo heddwch yng Nghymru, neu trwy edrych yn feirniadol ar effaith rhyfel ar gymunedau;
  • cyfranogi mewn gweithgareddau prosiect eraill megis ein Cynhadledd Ysgolion blynyddol neu ein Cystadleuaeth Arwyr Heddwch;
  • annog dysgwyr i ddod yn rhan o gynhyrchu ac ymrwymo i ddatganiad ysgol-gyfan sydd yn dangos ymroddiad i heddwch;
  • creu cymuned gynnes a chroesawgar yn seiliedig ar wrando, dealltwriaeth a pharch;
  • datblygu’r sgiliau a’r agweddau sydd yn angenrheidiol i ddysgwyr wrth feddwl yn feirniadol a thrafod yn barchus trwy gynlluniau megis Athroniaeth i Blant;
  • datblygu’r sgiliau a’r agweddau sydd yn angenrheidiol i ddysgwyr wrth feddwl yn feirniadol a thrafod yn barchus trwy gynlluniau megis Athroniaeth i Blant;
  • datblygu arferion ysgol-gyfan sydd yn hyrwyddo cymunedau parchus a heddychlon, megis systemau ‘bydis’ a chyflafareddu;

Y mae rhai ysgolion yng Nghymru eisoes yn aelodau cynlluniau ysgolion heddwch ac rydym yn gobeithio gwrando ac adeiladu ar eu profiadau er mwyn creu cynllun sydd yn nodweddiadol Cymreig.

A hoffech chi fod yn rhan o’r daith hon? Os felly, cysylltwch â Chydlynydd Dysgu Cymru dros Heddwch trwy e-bostio janeharries@wcia.org.uk.