Geirfa

Dyma restr o dermau sy’n cael eu defnyddio ym maes addysg dinasyddiaeth. Mae rhai termau’n cael eu defnyddio’n gydgyfnewidiol hyd yn oed gan arbenigwyr.

ABCh (Addysg Bersonol a Chymdeithasol)glossary school picture

Mae ABCh wedi bod yn elfen statudol o’r cwricwlwm i ysgolion yng Nghymru ers 2003. Mae’n cynnwys popeth y mae ysgol yn ei wneud – mewn gwersi arunig neu fel arall – i hyrwyddo datblygiad personol a chymdeithasol disgyblion. Mae cwmpas ABCh yn cynnwys Dinasyddiaeth Weithredol a Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, yn ogystal â meysydd megis datblygiad iechyd a moesol ac ysbrydol. Ceir arweiniad yn y Fframwaith ABCh ar gyfer dysgwyr 7-19 mlwydd oed – gweler gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru am fwy o wybodaeth.

Addysg ar Ddatblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF)
Yn hytrach na bod yn gydran o’r cwricwlwm, mae ADCDF yn agwedd tuag at addysg sy’n cynnwys y cwricwlwm cyfan a rheolaeth ysgolion. Mae’n hyrwyddo cysyniadau megis cyd-ddibyniaeth, amrywiaeth a datrys gwrthdaro.

Addysg dinasyddiaeth / addysg dinasyddiaeth fyd-eang
Mae CEWC yn defnyddio’r term hwn i gwmpasu popeth y mae ysgolion yn ei wneud i annog pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion gweithredol yn eu cymunedau lleol, cenedlaethol neu fyd-eang. Yn Lloegr, mae Addysg Dinasyddiaeth yn bwnc penodol yn y cwricwlwm.

Athroniaeth i Blant
Dull o ddatblygu sgiliau meddwl pobl ifanc drwy sefydlu ‘cymuned ymchwilio’ yn y dosbarth. Ewch i’r adran ar Athroniaeth i Blant am ragor o wybodaeth.

Cyngor ysgol
Corff democrataidd sy’n helpu i benderfynu ar bolisïau a datblygiad ysgolion. Ers Tachwedd 2006, mae’n ofyniad cyfreithiol i ysgolion yng Nghymru sefydlu cyngor sy’n cymryd barn pobl ifanc i ystyriaeth. Mae CEWC yn gallu cefnogi eich cyngor ysgol.

Dinasyddiaeth fyd-eang
Y syniad ei bod hi’n bosibl hefyd i weithredu fel dinesydd o’r byd, yn ogystal â bod yn ddinesydd eich cymuned leol neu’ch cenedl. Mae dinasyddiaeth fyd-eang yn cydnabod fod pobl mewn gwahanol wledydd yn fwyfwy gysylltiedig â’i gilydd drwy fasnach, cyfathrebu a chyfnewid gwybodaeth.

Dinasyddiaeth weithredol
Os yw bod yn ddinesydd yn golygu perthyn i gymuned, yna mae dinasyddiaeth weithredol yn golygu cymryd rhan i ffurfio’r gymuned honno. Gall y gymuned olygu eich ysgol, eich tref, Cymru, y DU neu’r byd.

Sgiliau meddwl
Mae sgiliau meddwl wedi bod yn gynwysedig yng nghwricwlwm cenedlaethol Cymru ers Medi 2008, fel rhan o ymgyrch i wneud y cwricwlwm yn fwy dysgwr-ganolog ac yn fwy seiliedig ar sgiliau. Mae sawl dull ar gael i wella sgiliau meddwl, yn cynnwys Athroniaeth i Blant.