Gwers P4C enghreifftiol

Bydd ysgolion yn aml yn ei gweld hi’n ddefnyddiol i weld sesiwn P4C gan arweinydd profiadol ar waith, cyn iddynt roi cynnig ar y dull eu hunain.

Gallwn ddarparu’r sesiynau hyn (a elwir yn ‘ymchwiliadau’ ym maes P4C) i unrhyw grwp oedran, naill ai fel gwersi unigol neu ar y cyd ag un o’n sesiynau hyfforddi.

Yn ddelfrydol, dylid neilltuo 80 munud ar gyfer arddangosiad yn yr ystafell ddosbarth (neu efallai gyfnod byrrach ar gyfer dysgwyr iau/llai eu gallu). Mae’n annhebyg y bydd y rhain yn wersi perffaith, gan na fydd y rhan fwyaf o’r disgyblion wedi arfer â P4C na’r arweinydd chwaith, a bydd angen cyflwyno’r rheolau sylfaenol i ddechrau. Ond maent yn ddelfrydol ar gyfer helpu athrawon i ddeall y ffordd mae’r dull yn gweithio.

Dyma’r prisiau:

Gwers enghreifftiol gydag 1 athro’n arsylwi
£50 yr awr i aelodau CEWC
£70 yr awr i eraill

Gwers enghreifftiol gyda mwy nag 1 athro’n arsylwi(ystyrir felly bod iddi elfen o hyfforddiant)
£50 yr awr i aelodau CEWC
£80 yr awr i eraill

I archebu danfonwch e-bost i cewc@wcia.org.uk