Teacher Training in P4C

Cwrs Sylfaen Lefel 1 mewn Athroniaeth i Blant

 

Os ydych yn awyddus i sbarduno eich disgyblion i feddwl mewn ffordd greadigol a beirniadol, yna dyma’r cwrs i chi. Bydd y cwrs deuddydd hwn yn cynnig cyflwyniad llawn i’r dull addysgu Athroniaeth i Blant (P4C).

Achredir ein hyfforddwr gan SAPERE, sy’n hyrwyddo P4C ledled y DU. Wedi i chi gwblhau’r cwrs Lefel 1 mae modd i chi symud ymlaen at Lefelau 2 a 3: gweler www.sapere.org.uk/Default.aspx?tabid=238 am fanylion.

Yn ogystal â chynorthwyo wrth ddysgu meysydd pwnc, gall P4C gyfoethogi ABCh, ADCDF a gofynion Sgiliau Meddwl cwricwlwm cenedlaethol 2008.

»  Rhaglen enghreifftiol

Circle 3


Anogir trafodaeth agored a chydweithio trwy gydol y cwrs, sy’n cynnwys yr elfennau canlynol:

  • Cyflwyniad i theori a manteision P4C
  • Sesiynau ymarferol – dysgwch trwy roi cynnig ar y dull P4C
  • Hwyluso ymchwiliad athronyddol yn effeithiol
  • Arweiniad ar gysylltiadau â’r cwricwlwm ac amserlennu P4C
  • Cyngor ar adnoddau defnyddiol
  • Y cyfle i wylio fideos o P4C ar waith

Circle 3

Y gost at gyfer y cwrs dibreswyl hwn fydd £275 y pen (gostyngiad o 10% iaelodau CEWC). Mae hyn yn cynnwys:

  • 2 ddiwrnod llawn o hyfforddiant
  • Llawlyfr Lefel 1 SAPERE
  • Tanysgrifiad blwyddyn am ddim i wefan SAPERE a bwletin misol P4C (pris wedi hynny: £20 y flwyddyn)
  • Taflenni gwybodaeth y cwrs
  • Cinio a lluniaeth ysgafn ar y ddau ddiwrnod

Level 1 Introductory Package

 

Gall ysgolion unigol fanteisio ar becyn cyflwyno arbennig, ar gost unwaith ac am byth.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Cwrs 2-ddiwrnod Lefel 1, yn ôl y disgrifiad uchod
  • 2 lawlyfr cwrs Lefel 1 gan SAPERE
  • wers enghreifftiol (hyd at 90 munud yr un) gydag athrawon yn arsylwi
  • Aelodaeth Gyswllt o CEWC am flwyddyn.

Cysylltwch a CEWC am rhagor o fanylion ac i archebu