Prosiect tair-blynedd oeddCymru Gallach a fydd yn esblygu ar sail y gwaith a wnaed gan CEWC er 2004 i ddatblygu’r dull Athroniaeth i Blant (P4C) mewn ystafelloedd dosbarth trwy Gymru.
Mae P4C yn annog plant i feddwl mewn modd beirniadol a chreadigol ac mae hefyd yn hybu eu sgiliau cyfathrebu. Dangoswyd bod P4C yn cael effaith bositif ddwys ar ymddygiad a hunan-barch, wrth i ddisgyblion gael eu hannog i wyntyllu ac archwilio eu safbwyntiau eu hunain, yn ogystal â gwrando ar safbwyntiau eu cyd-ddisgyblion, a dangos parch at y safbwyntiau hynny. Mewn gair, mae P4C yn helpu plant i ddatblygu’n ddinasyddion byd gweithredol, cyfrifol ac ystyriol yn ogystal â’u helpu i gyrraedd eu nod yn academaidd. Cafodd y manteision eu profi ac fe allent fod yn enfawr. Dyna pam yr ydym wedi dewis canolbwyntio ein gwaith ar y maes hwn!
Nod ein prosiect Cymru Gallach – dan nawdd Ymddiriedolaeth Esmée Fairbairn ac Ymddiriedolaeth Paul Hamlyn – oedd codi ymwybyddiaeth athrawon am P4C a’u galluogi nhw i ddefnyddio’r dull yn hyderus gyda disgyblion o bob oedran a gallu. Gall P4C gyfoethogi’r ddarpariaeth ym mhob pwnc, felly roedden yn cydweithio ag athrawon ledled Cymru i ddatblygu adnoddau dysgu ar gyfer pob Cyfnod Allweddol ac amrywiol feysydd pwnc. Trwy ddarparu sesiynau hyfforddi ac arddangos y dull yn yr ysgolion, gobeithion ysbrydoli athrawon i ddechrau defnyddio P4C yn rheolaidd ac yn effeithiol yn eu hystafelloedd dosbarth.