Cynghrair Dysgu Byd-Eang Cymru

Wales peaceschools

Rydym yn gynghrair o sefydliadau sy’n parchu’n pobl ifanc yn fawr iawn, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Dymunwn weld pobl ifanc Cymru’n ffynnu’n gyfrifol yn fyd-eang fel dinasyddion deallus, medrus ac sydd wedi eu grymuso.

Mae ein cynghrair yn dod â mwy nag 70 o sefydliadau ynghyd, yn cynnwys NGOs, cynrychiolwyr o awdurdodau lleol ac ymarferwyr addysgiadol.

Rydym yn rhannu ymrwymiad i sicrhau bod y system addysg yn cefnogi Cymru fel gwlad gryfach, blaenllaw – yn wybodus ynglŷn â chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru ac yn fyd-eang, gyda’r sgiliau i fedru cystadlu ar y farchnad ledled y byd gan barhau i gyfrannu tuag at ddyfodol cynaliadwy i bawb.

Credwn mai Addysg Fyd-eang yw’r llwybr ar gyfer gwireddu hyn.

Cyfarfod briffio

Beth ydy hyn a pam y dylid ei gefnogi?

Mae dysgu byd-eang yn gwella’r ffordd rydym yn deall ac yn meddwl am faterion lleol a byd-eang. Mae’n grymuso dysgwyr i greu newid ystyrlon drwy ddatblygu:

Gwybodaeth a dealltwriaeth am: gyfiawnder cymdeithasol a thegwch, hunaniaeth ac amrywiaeth, globaleiddio, cynaliadwyedd, heddwch a gwrthdaro, hawliau dynol, llywodraethu.

Gwerthoedd ac agweddau: synnwyr o hunaniaeth a hunan-barch, ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol a thegwch, parch at bobl a hawliau dynol, gwerthfawrogi amrywiaeth, pryder am yr amgylchedd, ymrwymiad i gyfranogiad, cred y gall pobl gyflwyno newid.

Sgiliau: meddwl yn feirniadol a meddwl yn greadigol, empathi, hunanymwybyddiaeth a myfyrio, cyfathrebu, datrys problemau, cydweithredu, y gallu i reoli cymhlethdodau, gweithredu myfyriol, ar sail gwybodaeth.

  • Mae dysgu byd-eang yn galluogi dysgwyr i:
    Ddeall materion byd-eang mawr, fel mudo, gwrthdaro ac anghydraddoldeb, y ffactorau y tu ôl iddynt, a sut mae materion o’r fath yn cysylltu â bywydau ein hunain.
  • Feddwl yn fwy beirniadol a creadigol i gefnogi ar y cyd a dadansoddi.
  • Werthuso amrywiaeth a pharchu eraill

Hanfod dinasyddiaeth fyd-eang ydy’r ymrwymiad i gyflwyno ymddygiad positif drwy:

  • Ddathlu’r pethau sy’n debyg rhyngddom ni a’n gwahaniaethau.
  • Gymryd rhan mewn cymdeithas a gwneud synnwyr o’r byd rydym yn byw ynddo, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd i sicrhau bod ein lleisiau yn cael eu clywed.
  • Weithredu gyda’n gilydd i greu byd mwy cyfiawn a chynaliadwy i bawb – nawr ac yn y dyfodol.

Cyd-destun

Mae Cymru yn ymfalchïo mewn bod yn genedl sy’n edrych tuag allan ac sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae gennym y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol newydd; rydym y Genedl Masnach Deg gyntaf a gobeithio cyn bo hir, y Genedl Noddfa gyntaf; mae pob Bwrdd Iechyd yn gysylltiedig ag ysbytai yn Affrica; mae mwy na 100 o gysylltiadau cymunedol ar lefel llawr gwlad.

A nawr, mae gennym gwricwlwm ble mai un o’r pedwar prif ddiben ydy datblygu ‘dinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd.’
Gydag ymrwymiad cryf, gall yr uchelgeisiau dysgu byd-eang yn y cwricwlwm ddod yn realiti, a chefnogi pawb yng Nghymru i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu — newid hinsawdd, gwrthdaro byd-eang, a thlodi.

Bydd ein dinasyddion iau yn deall pam bod angen i lywodraethau fuddsoddi y tu hwnt i’n ffiniau i greu tegwch, cyfiawnder a chynaliadwyedd ar gyfer Cymru a’r byd. Byddant yn dod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Effaith Dysgu Byd-eang

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang: Mae dysgwyr byd-eang yn dod yn ‘ddinasyddion moesegol a gwybodus o Gymru a’r byd’. Maen nhw’n cydnabod bod eu gweithredoedd yma yng Nghymru yn cael effaith y tu hwnt i’n ffiniau. Er enghraifft, maen nhw’n fwy tebygol o brynu nwyddau Masnach Deg ac ymgyrchu ar faterion byd-eang. Mae dysgwyr byd-eang yn deall bod materion byd-eang yn gymhleth, ac yn gallu asesu ffynonellau gwybodaeth ar gyfer cywirdeb ac ansawdd.

“O glywed rhai pethau ysbrydoledig gan bobl, mae hyn wir wedi agor fy llygaid i sut mae’r byd yn gweithio, a sut y buaswn yn gallu gwneud gwahaniaeth yn y dyfodol” disgybl, GLP-Cymru

Cymru lewyrchus: Mae dysgwyr byd-eang yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer cael swydd yn yr 21ain ganrif: datrys problemau, trin cymhlethdodau, gweithio trawsddiwylliannol a meddwl yn feirniadol. Mae tystiolaeth bod mabwysiadu’r rhaglen dysgu byd-eang mewn ysgolion yn gwella cyrhaeddiad ym meysydd datblygiad gwybyddol, mathemateg, cyfranogi, cyfathrebu a sgiliau cymdeithasol.

“Rwy’n teimlo fy mod i wedi sylweddoli, neu wedi dysgu, y gallaf wneud gwahaniaeth. Drwy ein stondin gacennau, codwyd bron i 150 o bunnoedd.” Elain, o Ysgol Bro Idris

Cymru gydnerth: Mae dysgwyr byd-eang yn fwy ymwybodol o newid yn yr hinsawdd a’i effaith ar y blaned a phobl. Maen nhw’n deall bod hyn yn fater byd-eang, a bod ganddynt rôl i’w chwarae mewn ceisio mynd i’r afael â hyn. Maen nhw’n fwy tebygol o wneud penderfyniadau sy’n lleihau’r defnydd o adnoddau, a chael eu hysgogi i effeithio ar newid.

“Rwy’n sicr ein bod ni wedi gallu gwneud gwahaniaeth i sut mae pobl yn meddwl – yn enwedig drwy gynnal gweithdai mewn ysgolion cynradd.” Megan o Ysgol Bro Idris

Cymru iachach: Mae gan ddysgwyr byd-eang lais cryfach yn eu hysgolion, a dealltwriaeth o’u hawliau. Maen nhw’n cymryd cyfrifoldeb am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd. Mae ysgolion sy’n mabwysiadu’r rhaglen dysgu byd-eang wedi lleihau bwlio, sy’n cael effaith negyddol ar iechyd meddwl.

“Mae’r Cynllun Ysgolion Heddwch wedi bod yn werthfawr iawn i ni ac yn sicr, mae wedi gwneud ein hamgylchedd yn fwy heddychlon – mae achosion o ymddygiad negyddol wedi disgyn” Rhian Francis, Athrawes, Ysgol Pum Heol

Cymru sy’n fwy cyfartal: Mae dysgwyr byd-eang yn fwy empathig a gydag ymdeimlad cryf o degwch. Maen nhw’n gwerthfawrogi amrywiaeth, ac yn gallu siarad yn bositif am hil a chydraddoldeb. Mae dysgu byd-eang yn cael effaith gryf ar y disgyblion mwyaf difreintiedig.

“Cyn i mi sefydlu’r prosiect CreuNewid, roeddwn yn un o’r bobl oedd yn meddwl na ddylai ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddod i’r wlad hon. Wedyn, dysgais nad oes bai arnyn nhw, ac mai’r unig reswm pam maen nhw’n dod yma yw oherwydd bod rhaid iddyn nhw, nid oherwydd eu bod nhw eisiau, a’u bod nhw eisiau bywyd gwell. “Ronnie, CCYD

Cymru o gymunedau cydlynus: Mae dysgwyr byd-eang yn datblygu empathi at eraill, ac yn teimlo wedi’u grymuso i wneud newidiadau yn eu cymunedau eu hunain. Mae ysgolion yn teimlo bod dysgu byd-eang yn gwella cydlyniant cymunedol. Mae dysgwyr byd-eang yn fwy tebygol o weithredu ar faterion lleol, a gwerthfawrogi amrywiaeth o fewn eu cymunedau.

“Gweithdy defnyddiol iawn, yn annog disgyblion i siarad am hiliaeth a stereoteipiau.”

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu: Mae dysgwyr byd-eang yn deall hunaniaeth ddiwylliannol eu hunain mewn perthynas ag eraill. Maen nhw’n fwy tebygol o fod yn bositif am ddiwylliannau eraill, i herio stereoteipiau ac i fod yn llai rhagfarnllyd.

“Dwi’n meddwl y dechreuais sylweddoli mwy pa mor ffodus yr ydym yng Nghymru i fyw mewn gwlad sy’n mwynhau heddwch.” Nefyn o Ysgol Bro Idris