Cysylltu Dosbarthiadau

Cyrsiau HMS

Yn WCIA, rydym yn credu bod Dysgu Byd-eang yn bwysig dros ben, yn fyd-eang ac yn ein bywydau dydd i ddydd. Rydym yn gweithio’n galed i gyflwyno’r digwyddiadau, hyfforddiant, deunyddiau ystafelloedd dosbarth a chyrsiau o’r safon uchaf. Mae pob un o’n negeseuon a’n methodolegau allweddol yn seiliedig ar ymchwil addysgol gadarn a llwyddiant profedig. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweithio gyda’r Llywodraeth i ddatblygu’r Cwricwlwm Cymreig, wedi ysgrifennu deunyddiau o ansawdd uchel ar gyfer yr ystafell ddosbarth, ac wedi darparu hyfforddiant i filoedd o athrawon yng Nghymru.

Mae pob un o’n cyrsiau HMS yn rhyngweithiol ac wedi’u cynllunio fel cyfres o weithdai ymarferol, sy’n rhannu arfer gorau, ac sy’n cwmpasu ystod eang o sgiliau, cymwyseddau a phynciau. Mae ein hyfforddiant yn amrywio o hyfforddiant fin nos i hyfforddiant deuddydd, ac mae’n cael ei ddarparu ar draws Cymru yn yr iaith fwyaf perthnasol ar gyfer y lleoliad hwnnw. Mae’r holl ddeunyddiau ar gael yn ddwyieithog ac ar gael i gyfranogwyr yn electronig i’w defnyddio yn yr ysgol.

Rydym wedi symud ein cyrsiau Cysylltu Dosbarthiadau drwy dysgu byd-eang ar-lein – astudiwch yn eich amser eich hun, wedi’i gefnogi gan sesiynau Zoom byw myfyriol a chyfranogol.

Mae cwricwlwm newydd Cymru yn gofyn am drawsffurfio’r ffordd y cyflwynir addysg. Gyda chwe maes dysgu a fydd yn dod â sgiliau craidd (Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol) a sgiliau bywyd hanfodol ynghyd, bydd angen i athrawon archwilio ffyrdd newydd o gynllunio a chyflwyno.

Fel rhan o Gysylltu Dosbarthiadau, byddwn yn rhedeg cyfleoedd datblygu proffesiynol am ddim i athrawon ac arweinwyr ysgol dros y 3 blynedd nesaf.

  • Athrawon fel ymchwilwyr (lefelau 1 a 2)
  • Cynnal Partneriaethau Teg a Chynaliadwy (lefelau 2 a 3)
  • Addysgu creadigrwydd a dychymyg (lefel 3)
  • Addysgu cyfathrebu a chydweithredu (lefel 3)
  • Addysgu arweinyddiaeth myfyrwyr a datblygiad personol (lefel 3)

Darllenwch manylion y cyrsiau yma – CCGL courses Cymraeg

Cynhelir y cwrs gan ein hyfforddwyr profiadol mewn lleoliadau ar draws Cymru a gellir ei gwblhau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Gallwch ddod i gwrs agored, neu archebu sesiynau mewnosod neu gefeillio yn eich ysgol.
Cysylltwch a Amber Demetrius ar 02920228549  neu ebostiwch – amberdemetrius@wcia.org.uk

Cefndir Cysylltu Dosbarthiadau

Partneriaeth rhwng y Cyngor Prydeinig a’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yw Cysylltu Dosbarthiadau.

Mae Cysylltu Dosbarthiadau drwy Ddysgu Byd-eang yn gweithio gydag ysgolion ar draws y byd i helpu pobl ifanc i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau i wneud cyfraniad cadarnhaol nawr ac yn y dyfodol.

 Darganfod mwy…