Pam cymryd rhan?

39284480380_282dc3f1d6_zMae CEWC wedi bod yn trefnu cynadleddau Model y Cenhedloedd Unedig ers dros 40 mlynedd. Mae dros 500 o fyfyrwyr yn cymryd rhan bob blwyddyn, gyda nifer o ysgolion yn dod n ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Yng ngeiriau un athro:

“Dim ond neges fer i ddiolch i chi am drefnu’r digwyddiad heddiw. Llwyddodd i danio brwdfrydedd ein disgyblion trwy gydol y dydd – roedden nhw wedi mwynhau’r digwyddiad yn fawr iawn. Mae pob un ohonynt yn awyddus i gymryd rhan y flwyddyn nesaf. Roedden nhw hefyd wedi gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg ac rydym yn ddiolchgar i CEWC-Cymru am gynnig y cyfle hwn i ni. Llawer o ddiolch unwaith eto. Rwy’n siŵr y dawn ni yn ôl y flwyddyn nesaf!”

Rydym yn casglu adborth gan fyfyrwyr ym mhob digwyddiad, gan ein galluogi i ddiweddaru a mireinio’r digwyddiadau’n rheolaidd. Dyma grynodeb o beth o’r adborth a dderbyniwyd yn 2013:

 

Cytuno’n gryf

Cytuno Ddim yn siŵr Anghytuno Anghytuno’n gryf
(os mynychwyd gennych) Bu’r sesiwn briffio am y gynhadledd yn ddefnyddiol. 17% 50% 12% 1% 1%
Roedd yr adnoddau briffio a ddosbarthwyd gan CEWC yn ddefnyddiol. 23% 62% 9% 2% 1%
Bu’r gynhadledd ei hun yn bleserus. 45% 50% 4% 0% 1%
Roedd yn rhwydd i chwarae rhan yn y gynhadledd ac i dilyn beth oedd yn digwydd ynddi. 36% 52% 8% 2% 1%
Bu’r gynhadledd a’r gwaith paratoi yn help i mi ddatblygu fy sgiliau meddwl a chyfathrebu. 28% 56% 11% 2% 1%
Bu’r gynhadledd yn gymorth i mi ddeall natur a phwysigrwydd cyd-weithrediad rhyngwladol. 45% 49% 5% 1% 1%
Wnaeth y gynhadledd fy helpu i wella fy nealltwriaeth o syniadau megis cyfoeth a thlodi, anghyfiawnder neu amrywiaeth diwylliannol. 39% 50% 8% 2% 1%