Mae dadlau yn arf gwych i helpu pobl ifanc i greu ymresymiadau am y byd rydym yn byw ynddo, ac i fyfyrio arnynt. Mae’n cefnogi twf mewn sgiliau dinasyddiaeth, yn ennyn diddordeb pobl ifanc mewn materion cyfoes, ac yn caniatáu iddynt ystyried syniadau beirniadol o amrywiaeth o ffynonellau. Yn bennaf oll, mae dadlau’n cynnig ffordd i fyfyrwyr ddatblygu eu meddyliau eu hunain mewn ffordd wybodus: awgrymu syniadau, gweithio gyda’i gilydd i gystadlu a chryfhau ymresymiadau ac yn y bôn, i ddatblygu ymagwedd agored at y byd.
Rydym yn awgrymu bod yr hyfforddiant dadlau hwn yn addas ar gyfer unrhyw fyfyrwyr 14+ oed.
Os oes gennych diddordeb i gymryd rhan a gwblhau’r hyfforddiant, dilynwch y dolen yma
Yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, rydym yn credu y dylai pawb gael eu grymuso i wneud y byd rydym yn byw ynddo’n fwy teg. Mae ein dadlau wrth wraidd hynny, gan ei fod yn dysgu pobl i feddwl yn feirniadol am ymresymiadau, i fyfyrio ar y wybodaeth a roddir iddynt, ac i fynegi eu barnau yn glir. Eleni, rydym yn gyffrous dro ben i allu cynnig yr hyfforddiant hwn i unrhyw un sydd eisiau bod yn rhan ohono, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’n cyllidwyr yn CGGC am weld y potensial ar gyfer y prosiect hwn, a’n cefnogi i’w gyflawni.