Gweithdai a chyflwyniadau i ddysgwyr
Dod â’r byd i’ch ysgol chi: rydym yn darparu sesiynau ystafell ddosbarth i bob oedran, gan helpu disgyblion i ddeall materion byd-eang ac i ddatblygu i fod yn ddinasyddion gweithredol
Gall WCIA gyflwyno gweithdai dosbarth mewn unrhyw ysgol gynradd, ysgol uwchradd neu goleg – yng Nghymru neu thu hwnt.
Newydd i 2015-16:
Cymorth ar gyfer Her Ddinasyddiaeth Fyd-Eang Bagloriaeth Cymru
Mae ein hymweliadau yn gallu cryfhau gwaith eich ysgol yn y meysydd canlynol:
- ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang)
- ABCh (Addysg Bersonol a Chymdeithasol)
- Cyfranogiad dysgwyr / y cyngor ysgol
- ‘Diwrnod ymgyfoethogi’ ar thema
- Gweithgaredd allgyrsiol
- Maes pwnc/manyleb arholiad yn cynnwys Daearyddiaeth, Saesneg, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth a Datblygiad y Byd
I archebu gweithdy neu sgwrs, dechreuwch trwy gwblhau ein ffurflen ymholiadau.
I bob oed
Mae’n gwasanaethau ar gael i ddisgyblion o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 13. O ddosbarthiadau bach i grwpiau blwyddyn llawn
- Gallwn weithio gyda grwp o unrhyw faint – yr unig gyfyngiad yw’r graddau o ddysgu gweithredol sy’n bosibl.
- Yn gyffredinol, gallwn ddarparu gweithdai cwbl ryngweithiol i ddosbarthiadau o hyd at 40 dysgwyr. 90 yw’r mwyaf all ddod i’n sesiynau Model y Cenhedloedd Unedig, ond nid oes terfyn ar gyfer cyflwyniadau llai rhyngweithiol.
- Pam na drefnwch chi ein bod yn darparu cyfres o weithdai llai ar eich cyfer dros ddiwrnod cyfan neu hanner diwrnod?
Trafod unrhyw bwnc byd-eang neu fater dinasyddiaeth.
Mae gennym brofiad helaeth o gyflwyno gweithdai a chyflwyniadau ar y pynciau a restrir isod. Fodd bynnag, gallwn gwrdd ag unr geisiadau eraill cyn belled â bod ein staff yn cael digon o amser i baratoi. (Noder y gallwn godi cyfradd uwch os yw ymwelia lefel uchel iawn o waith paratoi gan ein staff.)
Gweithdai neu chyflwyniadau pynciol:
- Hawliau dynol / Hawliau plant
- Gwaith y Cenhedloedd Unedig
- Datblygiad cynaliadwy
- Cyfranogiad democrataidd
- Dinasyddiaeth fyd-eang (yn gyffredinol)
- Ffoaduriaid a cheiswyr lloches
- Pwnc arall o’ch dewis chi
Gweithdy sgiliau:
- Athroniaeth i Blant / meddwl yn feirniadol
- Sut i ddadlau
Oes gennych ddiddordeb? Cyflwynwch ffurflen ymholiadau, a byddwn mewn cysylltiad o fewn 7 diwrnod.
Sesiwn Model o’r Cenhedloedd Unedig (oed 14+)
Mae Cynadleddau Model o’r Cenhedloedd Unedig yn rhan arferol o raglen digwyddiadau CEWC. Bellach rydym yn cynnig y gweithgaredd hwn ar gyfer ysgolion a cholegau unigol.
Gall sesiwn rhedeg ar sail bwnc:
- Newid yn yr hinsawdd
- Diarfogi niwclear
- Dwr glân i bawb
- Diogelwch Bwyd Byd-eang
- Pwnc arall
Gall y rhain naill ai fod yn sesiwn Model o’r Cenhedloedd Unedig o unrhyw hyd (90 munud i ddiwrnod llawn), gyda’r dysgwyr wedi paratoi gwaith neu sesiwn fer (hyd at hanner diwrnod) heb unrhyw waith wedi’i baratoi.