Ydych chi’n gwybod am berson ifanc sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich ysgol neu’ch cymuned chi neu sydd wedi ysbrydoli eraill?
Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), ac Academi Heddwch Cymru yn gweithio gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddathlu plant a phobl ifanc sydd wedi cyfrannu at heddwch, cynaliadwyedd a chydraddoldeb yn eu hysgol, grŵp ieuenctid, cymuned leol neu yn y byd ehangach.
Rydym yn cydweithio i gynnal ein 8fed Seremoni Wobrwyo Heddychwyr Ifanc flynyddol yn Eisteddfod Llangollen ar ddydd Gwener 5 Gorffennaf 2024 am 12pm lle bydd pobl ifanc yn derbyn tystysgrif a gwobr. Gall pobl ifanc unigol neu grwpiau (rhwng 5 a 25 bl. oed)
gyflwyno ceisiadau o dan y categorïau canlynol, neu gallwch ddewis i enwebu rhywun hefyd!
- Adeiladwr Heddwch Cymunedol Ifanc
- Awdur/Awduron Heddwch Ifanc y Flwyddyn (Mae categorïau ar wahân ar gyfer myfyrwyr cynradd ac uwchradd)
- Artist/Artistiaid Heddwch Ifanc y Flwyddyn (Mae categorïau ar wahân ar gyfer myfyrwyr cynradd ac uwchradd)
- Arwr Gweithredu Hinsawdd Ifanc
- Hyrwyddwr Iechyd Meddwl Ifanc
- Treftadaeth Heddwch – Pobl Ifanc
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw 31 May 2024.
Medrwch weld y telerau a’r amodau am y Gwobrau ar yma, yn ogystal â’r ffurflen gais. Anfonwch eich ceisiadau at centre@wcia.org.uk.
Categorïau 2024
Categorïau Wobrau Heddychwyr Ifanc 2024