Gwobrau Heddychwyr Ifanc

Ydych chi yn gwybod am blant neu bobl ifanc sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich ysgol neu’ch cymuned chi neu sydd wedi ysbrydoli eraill i greu newid?

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), Academi Heddwch Cymru, Maint Cymru a CWVYS yn gweithio gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddathlu plant a phobl ifanc sydd wedi cyfrannu at heddwch, cynaliadwyedd a chydraddoldeb yn eu hysgol, grŵp ieuenctid, cymuned leol neu yn y byd ehangach.

Rydym yn cydweithio i gynnal Seremoni Wobrwyo Heddychwyr Ifanc yn yr Eisteddfod ar 6 Gorffennaf 2023, lle bydd pobl ifanc yn derbyn tystysgrif a gwobr. 

A wnewch chi annog plant a phobl ifanc (rhwng 5 a 25 bl. oed) i fod yn greadigol ac i fynegi eu syniadau, teimladau a breuddwydion am sut y gall y byd fod yn fwy heddychlon, cyfiawn a chynaliadwy. 

Gall pobl ifanc unigol neu grwpiau gyflwyno ceisiadau o dan y categorïau canlynol:

  • Heddychwr Ifanc y flwyddyn
  • Awdur Heddwch Ifanc y flwyddyn (2 gategori – i bobl ifanc Cynradd ac Uwchradd)
  • Artist Heddwch Ifanc y flwyddyn (2 gategori – i bobl ifanc Cynradd ac Uwchradd)
  • Dinesydd Byd-eang Ifanc y flwyddyn
  • Sefydliad Ieuenctid Heddwch y flwyddyn(ar gyfer sefydliadau ieuenctid mwy):

Mae hi hefyd yn dderbyniol i enwebu rhywun arall, gyda’u caniatâd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw 12 Mehefin, 2023.

Medrwch weld y telerau a’r amodau am y Gwobrau isod, yn ogystal â’r ffurflen gais.  Anfonwch eich ceisiadau at  centre@wcia.org.uk