Syniadau Gwobrau Heddywchwyr Ifanc
Mae Gwobrau Heddychwyr Ifanc 2020 wedi symud ar lein! Dyma rai syniadau i’ch ysbrydolli!
- Byddwch yn greadigol! Beth mae heddwch yn ei olygu i ti? Sut medrwn greu byd mwy heddychlon?
Gelli fynegi dy hun trwy baent, clai, ffilm – pa gyfrwng bynnag sydd yn apelio atat ti – a rhannu’th gelfwaith gyda ni. - Dychmyga! Sut mae hi’n teimlo – fel person ifanc – i fod yn gaeth mewn ardal lle mae rhyfel? Edrycha ar gerddi a grëwyd gan bobl ifanc. Nawr cer ati i sgrifennu dy gerdd, blog neu stori di. Gelli ddewis stori arbennig os wyt yn dymuno. Yna gelli rannu dy waith gyda ni yma.
- Beth am godi helynt dros heddwch? Cyfle da ar gyfer bod yn greadigol a chael ymarfer corff! Beth am greu cân, dawns, neu berfformiad am heddwch gyda’th ffrindiau – yna rhannu’r perfformiad gyda ni yma.
- Arwyr Byd-eang: Pwy yw dy arwr / arwres fyd-eang – Greta Thunberg? Malala Yousafzai? Beth am yr holl arwyr anghofiedig o’r gorffennol hyd heddiw? A fedri di ddod o hyd i wybodaeth am un? Ysgrifenna erthygl neu stori am dy arwr / arwres ddewisedig, a’i anfon atom.
- COVID-19 a Chyfyng-gyngor y Carcharorion: Beth mae COVID-19 yn ei ddweud wrthym am y natur ddynol? A ydym yn reddfol yn hunanol, neu yn fwy tebygol o gydweithredu? A ydy’r un rheolau yn wir am unigolion a llywodraethau? Pa effaith y mae’r firws yn debygol o’i chael ar ein cymdeithas, yn lleol ac yn fyd-eang, ac a fyddwn yn dysgu un rhywbeth ohono? Ysgrifenna draethawd yn dadansoddi’r cwestiynau hyn a’i hanfon atom.
Ceisiadau caeedig