Rydym wedi darparu hyfforddiant mewn swydd o ansawdd da am naw mlynedd, gan helpu athrawon i ddatblygu sgiliau, gwerthoedd a dealltwriaeth myfyrwyr o faterion dinasyddiaeth.
Gellir teilwra’r cyrsiau i gwrdd ag anghenion cydweithwyr, ac rydym yn hapus i drefnu cyfarfodydd cyn cyrsiau neu sesiynau blasu pan fo hynny’n briodol.
As well as individual schools, mae’n cleientiaid yn cynnwys ESIS, Partneriaeth Addysg Busnes Morgannwg Ganol, Gyrfa Cymru, Prifysgol Glyndwr, Coleg Prifysgol y Drindod, a AALlau yn cynnwys Blaenau Gwent, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Casnewydd a Powys.
Gofynnir i athrawon sy’n cymryd rhan yn ein sesiynau hyfforddi i werthuso’u profiad bob amser. Their feedback has been overwhelmingly positive, and a selection of quotes from satisfied customers is provided on this page.
““Diolch yn fawr, CEWC-Cymru, am eich cymorth, eich cefnogaeth a’ch adnoddau yn rhedeg y rhaglen. Roedd y dyddiau hyfforddi’n gymysgedd rhagorol o strategaeth, gweithgareddau ymarferol ac amser i fyfyrio ar sut y gellir datblygu Athroniaeth i Blant drwy’r ysgol gyfan… Fe roddodd i athrawon yr hyder a’r brwdfrydedd i gyflwyno’r rhaglen yn eu hysgolion eu hunain.” Rhian Kenny, Cyngor Sir Caerfyrddin
“Bydd y diwrnod cyfan yn fanteisiol iawn i gynllunio ABCh o fewn yr ysgol.” Athro mewn ysgol gynradd ym Mhowys
“Diwrnod ffantastig! HMS sydd wedi fy ngadael yn ysu i fod yn ôl yn y dosbarth er mwyn rhoi popeth a ddysgais ar waith. Athro mewn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd
“Mae’r cwrs wedi bod yn gymorth enfawr i osod yr agenda Sgiliau Meddwl mewn rhyw fath o gyd-destun ac yn amlwg dyma’r ffordd ymlaen i ddatblygu dinas-yddion cyflawn.” Athro mewn ysgol gynradd yn Rhondda Cynon Taf