Global STEPS – Profwch eich sgiliau
Rydym yn credu bod pobl sy’n gwirfoddoli mewn gweithgareddau dinasyddiaeth fyd-eang (cyfnewidfeydd rhyngwladol, prosiectau heddwch, cymryd rhan mewn cysylltu cymunedol ac ati), yn datblygu sgiliau pwysig
Ond weithiau, nid yw ein gwirfoddolwyr yn cydnabod yr ystod enfawr o sgiliau maen nhw’n eu datblygu wrth wirfoddoli neu, os ydynt yn gwneud hynny, nid ydynt bob amser yn mynegi’r sgiliau hyn mewn ffordd y mae cyflogwyr yn eu deall. Weithiau, nid yw cyflogwyr yn gwerthfawrogi’r sgiliau sydd yn cael eu datblygu wrth wirfoddoli.
Mae’r prawf yn bwriadu cefnogi gwirfoddolwyr i:
- Hunanasesu’r sgiliau maen nhw wedi eu dysgu yn ystod eu profiad gwirfoddoli gan ddefnyddio ap ar-lein.
- Gefnogi gwirfoddolwyr i drosglwyddo eu sgiliau i’r lefel nesaf
- Gyfathrebu’r sgiliau hynny yn briodol ar CV, ffurflenni cais am swydd, mewn cyfweliadau, ac ati
- Godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo pwysigrwydd y sgiliau hyn i gyflogwyr
Mae’r prawf hwn (a dylai gymryd 30 munud i chi orffen) yn eich helpu i nodi’r sgiliau dinasyddiaeth fyd-eang sydd gennych, ac ar ba lefel.
Darllenwch y canllawiau isod neu gwyliwch y fideo ar sut i’w gwblhau
.