Cefais fy ysbrydoli gan y syniad, ac roedd yn ffitio mewn yn ddelfrydol gyda’r gwaith ar feddwl beirniadol roeddem eisiau ei wneud fel ysgol. Mae’n wych ar gyfer prosiect traws-gwricwlaidd-hanes, daearyddiaeth a mathemateg, ac edrychodd ar y gwrthdaro yn Syria o wahanol safbwyntiau.
Athro hanes, Ysgol Dyffryn Aman
Cynllun sy’n cefnogi ysgolion wrth ddatblygu heddwch fel thema trawsgwricwlaidd ac fel rhan o fywyd pob dydd yr ysgol, gan hybu ethos cadarnhaol, meddwl beirniadal, sgiliau creadigol a datrys problemau yn ddi-drais
Mae pawb yn teimlo’n ddiogel, ac fel eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi.
Mae elfennau allweddol y cynllun yn cynnwys:
- agwedd ysgol gyfan
- dysgwyr yn cymryd rhan weithredol yn y cynllunio a’r gweithredu yn yr ysgol
- cefnogi dysgwyr i archwilio heddwch fel thema ar draws y cwricwlwm, ynghyd â gweithgareddau allgyrsiol
- deall treftadaeth heddwch Cymu, a’i gysylltiadau â materion heddiw
- datblygu cysylltiadau â’r gymuned leol a chysylltu cymunedau lleol a byd-eang
- cefnogi dysgwyr i feddwl yn feiriniadol ac yn greadigol
- galluogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd (nod craidd o’r Cwricwlwm Cymreig newydd)
Ymunwch â rhwydwaith o Ysgolion Heddwch, gyda chefnogaeth staff WCIA, a rhoi’r cyfle i ddysgwyr fynychu’r Gynhadledd Heddwch flynyddol. Mae’r holl adnoddau yn rhad ac am ddim i’w llawrlwytho.