Date/Time
Date(s) - 04/11/2021
12:00 pm - 1:00 pm
Categories
101 o flynyddoedd o wirfoddoli rhyngwladol – Digwyddiad Rhithiwr gan y Senedd i ddathlu effaith cyfnewidfeydd byd-eang ar bobl ifanc a chymunedau yng Nghymru
Byddai’n bleser gennym ni pe bai chithau a’ch cydweithwyr yn ymuno â ni ar gyfer digwyddiad rhithwir gan y Senedd ar Ddydd Iau, Tachwedd 4, 2021, o 12.00-13.00, i ddathlu effaith cyfnewidfeydd byd-eang ar bobl ifanc a chymunedau yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad rhithwir yma yn cofnodi 101 o flynyddoedd o wirfoddoli rhyngwladol ac yn amlygu’r rhan gall y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu ei gael ar bobl ifanc Cymru, yn ogystal â’r camau nesaf ar gyfer Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
Ceir cyflwyniad byr yn y sesiwn wedi’i ddilyn gan y cyfle i wrando ar hanesion sydd wedi newid bywydau gan lyfrgell ddynol o bobl ifanc sydd wedi gwirfoddoli dramor a’r sefydliadau lletya sy’n gweithio gyda nhw.
11:55 Gwesteion yn cyrraedd
12:00 Croeso a chyflwyniad gan Susie Ventris-Field, Prif Weithredwr WCIA
12:05 Araith allweddol gan Heledd Fychan AS, Cadeirydd Gweithgor Rhyngwladol Trawsbleidiol a Gweinidog yr Wrthblaid dros Berthnasau Rhyngwladol i Blaid Cymru
12:15 Cyflwyniad gan wirfoddolwr sydd wedi dychwelyd
12:25 Cyflwyniad i lyfrgell ddynol gwirfoddolwyr a sefydliadau lletyol
13.00 Diwedd y digwyddiad
Byddwch cystal â chofrestru yma drwy Eventbrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/101-years-of-international-volunteering-tickets-194510414887
Noddwyd gan:
Heledd Fychan AS, Cadeirydd y Gweithgor Rhyngwladol Trawsbleidiol a Gweinidog yr Wrthblaid dros Berthnasau Rhyngwladol i Blaid Cymru