Addysg Heddwch ar Ddiwrnod Plant y Byd

Loading Map....

Date/Time
Date(s) - 20/11/2018
12:00 pm - 3:00 pm

Location
Temple of Peace and Health

Categories No Categories


Estynnir croeso cynnes i chi i fynychu’r digwyddiad hwn, a fydd yn edrych ar dreftadaeth ragorol Cymru o addysg dros heddwch a dealltwriaeth ryngwladol – treftadaeth sydd yn estyn o waith Pwyllgor Ymgynghorol Addysg Cymru (WEAC) yn y 1920au hyd at Gynllun Ysgolion Heddwch Cymru heddiw. Bydd’na gyfle i weld yn uniongyrchol sut mae addysg heddwch a dysgu byd-eang yn cyfoethogi dysgu, sgiliau a lles disgyblion ar lefel gynradd ac uwchradd. Ceir trafodaeth wedyn ar sut y gellir integreiddio addysg heddwch i’r cwricwlwm newydd yng Nghymru ac i fframwaith arolygu Estyn, er mwyn cefnogi disgyblion i ddod yn ‘ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd’ (Donaldson, ‘Dyfodol Llwyddiannus’).

https://www.eventbrite.co.uk/e/peace-education-on-world-childrens-day-addysg-heddwch-ar-ddiwrnod-plant-y-byd-tickets-50392939639