Date/Time
Date(s) - 23/03/2022
4:30 pm - 6:00 pm
Categories
‘Ymgyrchu dros Newid yn Ddi-drais’
Hyfforddiant ar-lein YN RHAD AC AM DDIM ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd yng Nghymru
Gall fod yn anodd, ar adeg rhyfel, i gredu yng ngrym gweithredu’n ddi-drais. Ac eto, trwy astudio hanes, gwyddom fod newid cymdeithasol a gwleidyddol effeithiol yn aml yn digwydd trwy fudiadau di-drais – er enghraifft annibyniaeth India, y mudiad Hawliau Sifil yn America ac – yn fwy diweddar – gwrthdystiadau am Newid Hinsawdd gan bobl ifanc ledled y byd.
Nod y sesiwn hyfforddi ôl-ysgol hwn yw rhoi arolwg ar gynnwys a methodoleg ‘Ymgyrchu dros Newid yn Ddi-drais’ – pecyn newydd traws-gwricwlaidd ysbrydoledig ar gyfer disgyblion 8 – 14 bl oed sydd yn cefnogi plant a phobl ifanc i:
• Archwilio ystyr di-dreisedd;
• Edrych ar enghreifftiau ysbrydoledig o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol lle mae pobl wedi bod yn llwyddiannus wrth weithredu’n ddi-drais dros newid; a
• Dadansoddi, cynllunio a gweithredu fel dinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd.
Ar ôl mynychu’r hyfforddiant, caiff athrawon fynediad i’r adnoddau YN RHAD AC AM DDIM. Gofynnir iddynt dreialu rhai ohonynt a gwerthuso’r hyn a ddysgwyd gan ddisgyblion. Mae’r deunyddiau wedi’u haddasu i’r cyd-destun Cymreig ac yn cynnwys astudiaethau achos y gellir eu hintegreiddio i gwricwlwm Cymru, gydag awgrymiadau am weithgareddau pellach.
I gael mynediad i’r hyfforddiant hwn, a wnewch chi gofrestru yma ac anfonir dolen atoch ar gyfer sesiwn ar lein (naill ai ar 23 neu 30 Mawrth). Os oes gennych gwestiynau pellach, cysylltwch â Jane Harries, Cydlynydd Addysg Heddwch yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru: janeharries@wcia.org.uk.