Ailgysegru’r Ardd Heddwch30

Loading Map....

Date/Time
Date(s) - 24/11/2018
1:00 pm - 3:00 pm

Location
Temple of Peace and Health

Categories No Categories


Sefydlwyd Gardd Heddwch Genedlaethol Cymru gan Robert Davies, sylfaenydd y Gwasanaeth Ieuenctid Rhyngwladol, CVS, a Chyfnewid UNA, ym 1988. Claddwyd capsiwl amser gan Richard Mears, disgybl wyth oed yn Ysgol Gynradd Parc y Rhath ac aelod ifancaf UNA, ynghyd ag Irene Chamberlain a oedd yn 93 oed ac yn rhan o’r agoriad ym 1938. Mae yno bron i hanner cant o gofebau i heddychwyr Cymru heddiw, ac mae pob un yn adrodd stori anhygoel ei hun.

30 mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dod ynghyd i ailgysegru’r Ardd Heddwch, gan ddatgelu mosaigau cerfluniol a ddyluniwyd gan bobl ifanc ar gyfer bwâu’r fynedfa, ynghyd â Llwybr Cofebau’r Ardd Heddwch. Bydd plant yn claddu Capsiwl Amser ar gyfer Canmlwyddiant y Deml yn 2038, a thu mewn i’r Deml bydd aduniad i wirfoddolwyr rhyngwladol Cyfnewid UNA. Arweinir gan Cyfnewid UNA, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Phartneriaid y Deml.

https://www.eventbrite.co.uk/e/wales-peace-garden-rededication-ailgysegrur-ardd-heddwch30-tickets-50219493858