Arddangosfa: Cymru Ddi-niwciear yn 40 (Bangor)

Mae’r bygythiad gan arfau niwclear a damweiniau niwclear wedi dychwelyd mewn modd arswydus gyda Rhyfel Wcráin. Hyd yn oed cyn yr ymladd presennol, roedd Rwsia ac UDA yn ‘moderneiddio’ eu harfau dinistr torfol. Y llynedd cynigiodd Boris Johnson cynyddu arsenal niwclear y DU, gan dorri amodau niwclear y CU sef y Cytundeb Atal Ymlediad niwclear (CAY). Rydym rŵan yn dysgu bod cynlluniau ar y gweill i uwchraddio bynceri milwrol yn RAF Lakenheath yn Suffolk i darparu ar gyfer arfau niwclear newydd yr Unol Daleithiau.

Rydym wedi bod yma o’r blaen, a dyna pam y mae’r arddangosfa fach CND CYMRU sydd ar hyn o bryd yn teithio Cymru mor amserol. Yn 1982, gyda’r Datganiad Clwyd o Gymru Ddi-Niwclear, daeth yr holl (yr 8) Cyngor Sir ar yr adeg yng Nghymru i bleidleisio yn erbyn gosod arfau niwclear yma yng Nghymru. Mae’r arddangosfa’n dathlu’r penderfyniad pwysig hwnnw 40 mlynedd yn ddiweddarach, ac yn annog cefnogaeth i Gytundeb 2021 y CU ar Wahardd Arfau Niwclear (TPNW, gwaharddiad byd-eang). Daw’r arddangosfa i Ty Cwrdd y Crynwyr yn Stryd y Deon, Bangor 22 – 29 Ebrill.  Mae Cyngor y Ddinas, Cyngor Sir G

wynedd a’r Senedd i gyd wedi pleidleisio i gefnogi PTGC.

Bangor 22.4.22-29.4.22

Yn agor I’r cyhoedd: 

26.4.22 10yb – hanner dydd

27.4.22 10yb-4yp

28.4.22 10yb-4yp