Heddwchwyr | Peacemakers @Aberystwyth

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth | Llawr Is–daear

(Arddangosfa Barhaol)

Mae Deiseb Heddwch Menywod Cymru yn un o weithredoedd mawr hanes Cymru. Mae’r ddeiseb saith milltir o hyd yn parhau’n un o’r deisebau heddwch mwyaf erioed wedi ei threfnu gan fenywod. Yr ysbrydoliaeth oedd y gred y gallai menywod, hyd yn oed yng nghysgod y rhyfel, anfon neges oedd ddigon cryf i groesi cefnforoedd. Mae’r ysbryd hwn wedi bod yn rhan o hanes Cymru ers amser maith. Am genedlaethau, mae pobl Cymru wedi codi eu lleisiau yn erbyn anghyfiawnder, ac dal i wneud hynny heddiw.

Wefan LlGC

Menywod, Heddwch, Hanes: Agor Arddangosfa Barhaol Newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol

Ar 2 Hydref 2025, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn agor arddangosfa barhaol newydd – gofod pwerus sy’n dathlu un o’r ymgyrchoedd heddwch mwyaf ysbrydoledig yn hanes Cymru: Deiseb Heddwch Menywod Cymru.

Dyma le i ddysgu, myfyrio, ac ysbrydoli – lle mae hanes yn cwrdd â gobaith, a lle mae gweithredu’n dechrau, ar gyfer adeiladu dyfodol heddychlon i Gymru a’r byd.

Yn ganolog i’r arddangosfa Heddychwyr bydd copi o’r apêl eiconig a’r gist dderw enwog a gludodd y neges heddwch dros Fôr yr Iwerydd i America. Bydd tudalennau’r ddeiseb yn cael eu dangos ochr yn ochr â straeon y merched a’i llofnododd – un stori ar y tro, gan ddechrau gyda hanes Annie Hughes Griffiths. Bydd eitemau personol o’i harchif yn cael eu harddangos, gan gynnwys y dyddiadur a gadwodd ar y daith drawsatlantig honno – gyda’i geiriau hi ei hun yn dod yn fyw mewn sain a ffilm.

Ond nid hanes yn unig yw hwn. Bydd ymwelwyr yn gallu chwilio am enwau eu teuluoedd yn y ddeiseb drwy gyfrifiaduron yn y gofod, diolch i broses dorfol o drawsysgrifio gan y Llyfrgell. Bydd modd iddynt fyfyrio, rhannu eu neges heddwch eu hunain, a dod yn rhan o’r stori heddwch sy’n parhau hyd heddiw.

Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Ers i Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru ddychwelyd i Gymru yn Ebrill 2023, mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi gweithio’n ddiwyd i rannu ei stori. Mae’r gwaith catalogio, digido, trawsysgrifio a chreu gwefan sydd wedi’i wneud ers hynny yn golygu bod pobl o bedwar ban y byd gyda mynediad i’r adnodd arbennig yma, er mwyn chwilio am eu hen nain, modryb neu rywun oedd yn byw ar ei stryd. 

Bu stori’r Ddeiseb, a’r menywod tu ôl iddi ar goll am rhy hir – ond dim mwy. Nawr, mae’r ardal arddangos bwrpasol hon yn golygu bod eu hanes yn cael ei adrodd a’i fod ar gof a chadw i genedlaethau’r dyfodol gael dysgu am wydnwch a gweledigaeth y menywod yma.” 

Meddai’r Athro Mererid Hopwood, Ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru:

“Mewn dyddiau sy’n llawn straeon am ryfel a thrais, mae penderfyniad ein Llyfrgell Genedlaethol i neilltuo lle i’r arddangosfa bwysig hon yn ddatganiad o ffydd a gobaith. Mae’n rhoi cyfle inni gael ein hysbrydoli gan y gorffennol i ddychmygu – ac i greu – dyfodol lle mae pobloedd y byd yn gallu cyd-fyw’n heddychlon â’i gilydd. 

Bu’n fraint cydweithio â Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy Academi Heddwch Cymru i sicrhau bod stori Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923–24 yn dod i glawr, a gwn y bydd yr arddangosfa hon yn rhoi hwb i wireddu gweledigaeth y ddeiseb honno o ‘drosglwyddo i’r oesau a ddêl fyd di-ryfel yn dreftadaeth dragywydd’.” 

Meddai’r Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant AS:

“Mae’n fraint agor yr arddangosfa barhaol newydd hon sy’n ofod pwrpasol i nodi Deiseb Heddwch Merched Cymru. Mae’r ymgyrch hynod hon, a unodd bron i 400,000 o ferched Cymru ym 1923-24, yn dyst i’n gwerthoedd parhaol fel cenedl heddychlon. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r gwaith i ddod â’r darn anhygoel hwn o hanes Cymru adref lle mae’n perthyn.” 

“Mae neges y ddeiseb – sy’n galw am ‘gyfraith nid rhyfel’ ac am fyd heb wrthdaro – yn parhau i fod yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd ganrif yn ôl a bydd y gofod pwrpasol hwn yn y Llyfrgell Genedlaethol yn sicrhau bod dewrder a gweledigaeth y merched hyn yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.” 

Er mai’r ddeiseb yw canolbwynt yr arddangosfa, bydd hefyd yn archwilio hanes ehangach ymgyrchoedd heddwch yng Nghymru, gan ddangos bod yr ymrwymiad i heddwch wedi parhau ymhell ar ôl 1924. O negeseuon rhyngwladol o gyfeillgarwch i weithredoedd protest pwerus, mae pobl Cymru wedi, ac yn parhau i godi eu lleisiau dros heddwch. Bydd yr arddangosfa yn rhannu rhai o’r straeon hyn, gan gynnwys rhai eitemau’n ymwneud â gweithred hanesyddol merched Comin Greenham.

Am y Ddeiseb 

Wedi’i arwyddo gan bron i 400,000 o fenywod Cymru, roedd Deiseb Heddwch 1923-24 yn weithred bwerus o undod a gobaith. Roedd yn galw ar fenywod America i ymuno yn yr ymdrech i greu byd heb ryfel, ac mae ei neges yn dal i atseinio dros ganrif yn ddiweddarach.

Lansiwyd y Ddeiseb yn Aberystwyth ym Mai 1923 ac aeth ymgyrchwyr heddwch ati yn ddiflino i gasglu llofnodion yn y misoedd canlynol. O bentrefi bach i drefi diwydiannol, roedd menywod yn llofnodi yn eu miloedd.

Tu ôl i bob llofnod mae menyw â’i stori ei hun – athrawes, mam, gweithiwr ffatri, bardd neu ymgyrchydd oedd yn credu mewn heddwch ac a benderfynodd weithredu.

Roedd y cyfanswm terfynol o 390,296 llofnodion – un o bob tair menyw yng Nghymru – yn brawf o’r gefnogaeth eang i heddwch a chryfder rhwydweithiau menywod Cymru. Yn Chwefror 1924, teithiodd dirprwyaeth o fenywod Cymru, dan arweiniad Annie Jane Hughes Griffiths, i’r Unol Daleithiau i gyflwyno’r Ddeiseb i fenywod America. Cawsant groeso cynnes a buont ar daith i ddinasoedd mawr, gan siarad mewn cyfarfodydd cyhoeddus, clybiau menywod ac eglwysi, a rhannu eu neges o heddwch.

I nodi’r canmlwyddiant, gwnaeth Sefydliad Smithsonian y penderfyniad anrhydeddus i roi’r Ddeiseb yn rhodd i bobl Cymru, gan roi cartref newydd iddi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae papurau a chist dderw’r Ddeiseb wedi’u harddangos mewn lleoliadau trwy Gymru, ac mae cannoedd o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan yn y dasg o drawsgrifio pob llofnod, i sicrhau bod y weledigaeth o heddwch byd-eang yn fyw o hyd.

Gallwch eu chwilio yma: https://deisebheddwch.llyfrgell.cymru/