Cinio a Dysgu

Map Unavailable

Date/Time
Date(s) - 16/05/2022 - 20/05/2022
12:30 pm - 1:30 pm

Categories


Ymunwch â Phennaeth Partneriaeth Hub Cymru Affrica, Claire O’Shea, wrth iddi gwrdd â Jon Townley, tîm Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, a Phennaeth Cymru o Blaid Affrica, a thrafod gwaith Undod Cymuned Cymru Affrica.

Byddant yn trafod Grant Cymru ac Affrica hefyd, a sut mae elusennau yng Nghymru yn dangos eu “Budd i Gymru” drwy’r cynllun grant.

—–

O’r 16eg i’r 20fed o Fai 2021, rydym yn falch iawn o groesawu llu o gyllidwyr, a fydd yn rhannu’r cyfrinachau ar gyfer sut i ysgrifennu grantiau da yn uniongyrchol gyda chi. Yn ystod yr wythnos, byddwch yn cael cyfle i ymuno â chyfres o weminarau, i glywed awgrymiadau gan godwyr arian arbenigol.

Nod y digwyddiad wythnos o hyd hwn yw rhoi cipolwg i chi a’ch sefydliad ar safbwyntiau codwyr arian proffesiynol a disgwyliadau rhoddwyr grantiau. Bydd hyn yn eich helpu i gryfhau eich dull gweithredu – o gynllunio a datblygu prosiectau i gyfathrebu am eich gwaith mewn cais am grant neu lythyr apêl.

Cofrestrwch yma

16/5/22: Budd i Gymru

18/5/22: Camgymeriadau cyffredin mewn ceisiadau am gyllid a sut i’w hosgoi

19/5/22: Dosbarth meistr – ysgrifennu ceisiadau: Cyfleu eich Pwynt Gwerthu Unigryw

20/5/22: Dathlu Llwyddiant