Date/Time
Date(s) - 04/05/2022
9:30 am - 12:30 pm
Categories
Ydych chi neu’ch dysgwyr eisiau newid y byd?
Dros y blwyddyn diwethaf, rydym wedi gweld yr effaith mae un person yn gallu cael ar y byd. O Greta Thunberg a Malala Yousafzai i’r bobl ifanc wnaeth cymryd rhan yn COP26 eleni, mae pobl ifanc yn darganfod pŵer eu lleisiau ac yn achosi newid i ddigwydd yn ein cymdeithas.
Yn y gynhadledd hon, byddwn yn cefnogi disgyblion i feddwl am y ffyrdd ymarferol maent yn gallu creu newid cymdeithasol positif trwy gyfres o weithgareddau rhyngweithiol gan gynnwys gweithdai ar-lein, addewidion newid, enghreifftiau go iawn o ymgyrchoedd, a mwy!
Pan fyddwch chi’n cofrestru, byddwch chi’n gallu dewis amrywiaeth o weithdai a fydd yn cynnwys materion fel sut i lobïo’ch Aelod Seneddol, dysgu am faterion byd-eang fel anffafriaeth, ffasiwn anghynaladwy, datgoedwigo a sut gallwch chi helpu , beth yw ymgyrch creu newid, yn ogystal â cherddoriaeth a dathliadau byd-eang. Byddwn yn anfon cysylltiadau digidol atoch ar gyfer y digwyddiad a byddwch yn cael eich gwahodd i gyfrannu prosiect newid rydych wedi’i wneud os hoffech ei ddathlu (heb fod yn orfodol!)
Mae’r prosiect hwn yn ffordd wych o gael myfyrwyr i ymgymryd â phwrpas dinasyddiaeth foesegol y Cwricwlwm Newydd yng Nghymru. Mae’n gyfle bendigedig i Gynghorau Ysgol weithio gyda’i gilydd i greu newidiadau, a dysgu am eu llais yn y byd.
Bydd myfyrwyr ac athrawon yn ymuno â’r gynhadledd trwy Zoom ar ddydd Mercher 4ydd o Fai am 9.30 yn y bore.
Darllenwch bolisi preifatrwydd WCIA yma