CreuNewid DPP

Map Unavailable

Date/Time
Date(s) - 15/03/2019
9:30 am - 4:00 pm

Categories No Categories


DPP ar gyfer athrawon – Dinasyddiaeth Fyd-eang: Cefnogi meddwl beirniadol am symudiadau pobl ar draws y byd

Gweithdai datblygu proffesiynol am ddim i athrawon yng Nghymru

 


Ar hyn o bryd, mae’r byd yn mynd trwy’r argyfwng ffoaduriaid mwyaf sydd wedi’i gofnodi. Bob awr, mae tua 1800 o bobl ar gyfartaledd yn cael eu symud yn orfodol o’u cartrefi, ac mae’r nifer o ffoaduriaid yn y byd yn cynyddu’n raddol (RNHCP). Mae storïau am ffoaduriaid, ceiswyr lloches ac ymfudwyr yn ymddangos yn y newyddion bob dydd. Pam fod pobl yn symud? Pa effaith y mae hyn yn ei chael ar y byd?

Mae’n gallu bod yn heriol i athrawon fynd i’r afael â ‘r materion dadleuol hyn weithiau yn yr ystafell ddosbarth. Sut ydw i’n ymateb i gwestiynau fy nysgwyr os nad wyf yn gwybod yr holl atebion? Sut ydw i’n helpu fy mhlant i feddwl yn fwy beirniadol am y materion hyn?

  • Bydd y gweithdy datblygu proffesiynol hwn yn eich helpu chi gyda’r canlynol:
  • I ddatblygu eich dealltwriaeth o faterion sy’n ymwneud â ffoaduriaid, ceiswyr lloches, ymfudwyr a symudiadau pobl yn gyffredinol
  • I ddysgu am fethodolegau dinasyddiaeth fyd-eang i helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau i feddwl yn feirniadol ynghylch hyn a materion lleol a byd-eang eraill
  • I feithrin hyder wrth drafod pynciau heriol yn yr ystafell ddosbarth
  • I gefnogi’ch dysgwyr i ddatblygu fel dinasyddion moesegol, gwybodus a gweithredol yng Nghymru a’r Byd.
  • I rannu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu gyda chydweithwyr yn eich ysgol / coleg.

Pwy sy’n gallu mynychu?
Mae’r cwrs hwn yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu elfennau byd-eang o’u cwricwlwm, ond efallai y bydd o ddiddordeb arbennig i athrawon Bagloriaeth Cymru (gellir defnyddio’r pwnc ar gyfer yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang), i’r rheiny sydd â diddordeb ym maes Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang, neu i arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion.

Cofrestrwch yma