Cymhorthfa Ddiogelu

Map Unavailable

Date/Time
Date(s) - 29/03/2022
2:00 pm - 4:30 pm

Categories


Oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu a oes angen cyngor a chefnogaeth arnoch chi ar gyfer unrhyw agwedd ar eich arferion Diogelu? Rydym yn cynnig sesiynau cynghori 1:1 ar gyfer mudiadau yng Nghymuned Cymru Affrica er mwyn i chi allu trafod pryderon, rhoi adborth ar eich asesiadau risg, polisïau a dogfennau allweddol eraill, a rhoi cyngor o ran arfer gorau ar gyfer unrhyw agwedd ar y cylchred diogelu. 

Defnyddiwch y Teclyn Hunanasesiad Diogelu – Hyb Cymorth y Trydydd Sector i ddynodi bylchau yn eich arferion, ac unwaith y bydd eich lle wedi’i gadarnhaugallwch rannu unrhyw ddogfennau allweddol gyda ni ymlaen llaw i wneud y defnydd gorau o’r amser.

Byddem yn eich annog i weithio ar eich arferion diogelu gyda’ch partner ac i fynychu’r cyfarfod gyda’ch gilydd os yw hyn yn ymarferol.

Dim ond ychydig lefydd sydd ar gael, felly’r gyntaf i’r felin gaiff falu. Byddwn yn cadw rhestr aros ar gyfer sesiynau yn y dyfodol os yw’r galw yn fwy na’r lleoedd sydd ar gael. I gofrestru, ebostiwch advice@hubcymruafrica.org.uk gyda’ch amser dewisol: 14:00, 15:00 neu 16:00.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma