Ymunwch â’r gynulleidfa a dewch yn rhan o’r drafodaeth banel ‘podlediad heddwch’ hon, lle byddwn yn archwilio ymwneud Cymru â datblygiad rhyngwladol dros 80 mlynedd, gan gynnwys sefydlu’r Cenhedloedd Unedig, Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig ac UNESCO; Ymgyrchoedd Gwrth-Apartheid a Rhyddid rhag Newyn y chwedegau hyd at yr wythdegau; UNICEF a VSO; cysylltiadau â Nicaragwa, Ciwba, Patagonia a Lesotho, a fu’n rhagflaenu rhaglen Cymru o Blaid Affrica heddiw.