Cymru dros Heddwch yn Wcráin

Map Unavailable

Date/Time
Date(s) - 01/03/2022
12:30 pm - 2:00 pm

Categories


Digwyddiad ar y cyd rhwng Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Academi Heddwch

Ar-lein

Rydym eisiau i Gymru fod â golygwedd ryng-genedlaetholaidd lle mae pawb yma yn cyfrannu at greu byd tecach a mwy heddychlon. Wrth i ni wylio’r sefyllfa’n mynd o ddrwg i waeth yn Wcráin, mae’n hawdd teimlo’n ofidus ac yn ddi-help. Bwriad y digwyddiad ar y cyd hwn yw datblygu ein dealltwriaeth a gwybodaeth o’r hyn sy’n digwydd yn Wcráin a’r wleidyddiaeth fyd-eang sydd y tu ôl iddo. Byddwn yn clywed gan siaradwyr sy’n arbenigo yn y rhanbarth ac addysg ar gyfer meithrin heddwch a diplomyddiaeth ddiwylliannol. Bydd y digwyddiad yn gyfle i ni uno a gofyn cwestiynau a rhannu ein safbwyntiau ar beth all y Cymry ei wneud i helpu ar hyn o bryd. Byddwn hefyd yn rhannu eiliad o undod a myfyrio, i gefnogi pawb yr effeithir arnynt.

Mae’r siaradwyr yn cynnwys:

  • Dr Jenny Mathers, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth
  • Yr Athro Cara Aitchison, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Cofrestru yma

“Mae’r ymosodiadau yn Wcráin yn ein hatgoffa nad yw ein byd ni heddiw yn rhydd o ryfel nac o fygythiad rhyfel. Dyma pam fod angen i ni gydweithio i ddatblygu polisïau sy’n coleddu diwylliant o heddwch yn hytrach na chynyddu tebygolrwydd rhyfela. A thra bo’r rhyfel yn mynd rhagddo, dylem fod yn paratoi at ddelio â’r heriau dyngarol sy’n siŵr o ddilyn.” Academi Heddwch Cymru