Date/Time
Date(s) - 27/03/2019
5:45 pm - 8:00 pm
Location
Temple of Peace and Health
Categories No Categories
Cadwch y Dyddiad
Mae’n bleser gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd gyhoeddi dyddiad ar gyfer ein digwyddiad a drefnwyd ar y cyd, ‘Cymru mewn Byd ar ôl Brexit’.
Gyda 2 ddiwrnod i fynd, byddwn yn edrych tu hwnt i Fawrth 29 ac ar rôl Cymru mewn byd ar ôl Brexit. Sut mae cenhedloedd a rhanbarthau is-wladwriaethol yn cynnal perthnasau rhyngwladol? Beth all Cymru ddysgu gan eraill? Sut ddylai hyn lunio ymagwedd ryngwladol Cymru yn y dyfodol?
Bydd y drafodaeth yn ddigwyddiad delfrydol i fyfyrwyr, ymchwilwyr ac aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb, ac a fydd yn cyfrannu i’r drafodaeth ynglŷn â dyfodol Cymru yn y byd wrth i ni symud yn nes at y dyddiad presennol a bennwyd ar gyfer Brexit. Byddwn yn clywed gan siaradwyr academaidd fydd yn edrych ar y dewisiadau sydd ar gael i Gymru ymgysylltu â’r byd, a sut fyddai proses Brexit yn cyflwyno heriau a chyfleoedd ar gyfer ein perthnasau rhyngwladol yn y dyfodol.
Ar ôl clywed gan academyddion ac ymarferwyr bydd croeso i’r gynulleidfa ymuno â ni am dderbyniad diodydd er mwyn parhau â’r sgwrs.
Cyhoeddir pwy fydd y siaradwyr yn hwyrach ond anogwn i chi gofrestru’n gynnar!