Cymuned Ymarfer Gwrth-Hiliaeth

Map Unavailable

Date/Time
Date(s) - 30/06/2022
12:30 am

Categories


Mae’r grŵp agored a chyfeillgar hwn yn cyfarfod i drafod a myfyrio ar effaith hiliaeth yn y sector undod byd-eang, ac i gefnogi ei gilydd i gydnabod a herio hiliaeth yn ein gwaith.

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar Siarter Gwrth-Hiliaeth Hub Cymru Africa, yn benodol, sut y gallwn fodloni Pwynt Siarter 2:

“Byddwn yn defnyddio ein sefyllfaoedd i herio hiliaeth lle rydym yn ei weld, ac i feddwl yn feirniadol am y strwythurau rydym yn eu cynnal yn ddiarwybod, ac yna, eu datgymalu.”

Er mwyn helpu gyda’r drafodaeth hon, byddwn yn darllen adroddiad BOND gan Lena Bheeroo, Pontso Mafethe a Leila Billing, “Racism, power and truth: Experiences of people of colour in development [SAESNEG]”.

Os ydych yn bwriadu dod, byddai’n ddefnyddiol (er nad yn hanfodol) os gallwch ddarllen yr adrannau canlynol ymlaen llaw:

  • Executive Summary (tudalennau 3 i 5)
  • Recommendations: Systems – tudalennau 53 i 54)

Rydym yn sylweddoli nad yw’r holl argymhellion hyn yn berthnasol i sefydliad o faint y rhan fwyaf o fewn cymuned undod byd-eang yng Nghymru, ond gofynnwn i chi weld pa rai fyddai’n berthnasol i’ch sefydliad, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

COFRESTRU