Date/Time
Date(s) - 06/11/2018
9:30 am - 2:30 pm
Categories No Categories
Mae hyn yn ddigwyddiad unigryw, sydd yn dod â’r gwaith a gyflawnwyd dros y pedair blynedd diwethaf gan brosiect Cymru dros Heddwch a leolir yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) at ei gilydd, ac yn trosglwyddo’r awenau i bobl ifanc – heddychwyr y dyfodol. Cynhelir y digwyddiad mewn dwy ran:
sesiwn bore yn Nhŷ Hywel, lle caiff dysgwyr y cyfle i ymuno mewn trafodaeth a holi Aelodau Cynulliad ar faterion yn ymwneud â heddwch sydd o gonsyrn iddynt fel pobl ifanc yn byw yng Nghymru heddiw
sesiwn prynhawn yn y Deml Heddwch. Bydd hyn yn ddathliad, lle bydd ysgolion yn rhannu gwybodaeth am brosiectau a gweithgareddau a gyflawnwyd ganddynt dros heddwch. Bydd y mynychwyr yn cynnwys yr ysgolion cyntaf yng Nghymru i dderbyn statws Ysgol Heddwch Cymru.
Cadwch le nawr fel na chewch eich siomi!