Date/Time
Date(s) - 02/12/2021
5:00 pm - 6:30 pm
Categories
Mae Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru Affrica yn cynnal darlith flynyddol ar bwnc o ddiddordeb i’r rheini sy’n ymwneud â gweithgarwch iechyd byd-eang yng Nghymru. Eleni, rydym wedi bod yn ffodus iawn i groesawu’r Athro Anthony Costello i gyflwyno’r ddarlith ar y pwnc: “Dyfodol i’n Plant?” Mae Anthony yn athro Iechyd Plant Rhyngwladol ac yn Gyfarwyddwr Sefydliad Iechyd Byd-eang UCL ac yn Uwch Gynghorydd CAP2030 – yr ymgyrch.
Rydym yn falch hefyd o groesawu Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i roi ymateb i ddarlith yr Athro Costello. Dechreuodd Sophie yn ei swydd yn 2016, ac mae wedi arwain ymyriadau proffil uchel ynghylch cynllunio trafnidiaeth, diwygio addysg a newid yn yr hinsawdd, gan herio’r Llywodraeth ac eraill i ddangos sut maen nhw’n ystyried cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd y digwyddiad ar-lein, gyda darlith, ymatebion a sesiwn holi ac ateb i gynulleidfa.
Cofrestrwch yma
Ar ôl gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Yr Adran Iechyd Mamau, Plant a’r Glasoed, Sefydliad Iechyd y Byd, dychwelodd Anthony Costello i Goleg Prifysgol Llundain ym mis Mehefin 2018 fel Athro Iechyd Byd-eang a Datblygu Cynaliadwy. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Iechyd Byd-eang yn UCL. Mae’n gyd-gadeirydd digwyddiad rhyngwladol Lancet – Cyfrif y dyddiau ar gyfer Gweithredu ar yr Hinsawdd ac Iechyd, ac yn uwch gynghorydd i raglen Children in All Policies 2030 sydd yn cael ei gefnogi gan Sefydliad Iechyd y Byd, UNICEF a’r Lancet (www.cap-2030.org). Mae ei ymchwil wedi canolbwyntio ar dreialon clwstwr ar hap o weithredu cymunedol ar gyfer iechyd mamau, newydd-anedig a metabolig yn Nepal, Bangladesh, India a Malawi. Mae ei lyfr ‘The Social Edge. The Power of Sympathy Groups for our Health, Wealth and Sustainable Future’ yn disgrifio’r gwaith hwn ac yn ceisio meddwl am ffyrdd i ni fynd i’r afael â phroblemau’r 21ain ganrif yn y byd gorllewinol. Gyda Syr David King, cyn prif gynghorydd gwyddonol llywodraeth y DU, roedd yn gyd-sylfaenydd Independent SAGE, sy’n ceisio rhoi mwy o ffocws ar iechyd y cyhoedd, tryloywder ac ymgysylltu â’r cyhoedd i ymateb Covid y DU.
Mae CAP-2030 yn gweithio i ganolbwyntio iechyd a lles plant mewn polisi, er mwyn sicrhau dyfodol teg a chynaliadwy. Rydym yn gweithredu argymhellion Comisiwn WHO-UNICEF-Lancet, drwy hyrwyddo hawliau plant a diogelu eu hiechyd drwy wyddoniaeth, eiriolaeth ac adeiladu clymblaid.