Date/Time
Date(s) - 18/11/2021
9:31 am - 12:31 pm
Categories
Ydych chi neu’ch dysgwyr eisiau newid y byd?
Yn y prosiect hwn, rydyn ni’n gwahodd myfyrwyr i ddysgu’r sgiliau a fydd yn eu galluogi i ddychmygu’r byd maen nhw am ei greu yn 2100, gan ddatblygu penderfyniadau i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol ac archwilio’r ffyrdd y gallwn ni wneud newidiadau nawr i wneud y byd yn lle gwell.
Bydd dirprwyaethau o bob ysgol sy’n cymryd rhan yn dod yn gyntaf i Model y Cenhedloedd Unedig i gynrychioli barn eu gwlad ar sut rydym yn adeiladu dyfodol gwell. Ar ôl y digwyddiad hwn, byddwn yn cefnogi myfyrwyr i weithredu i wneud newid er gwell yn eu cymuneda, gan ddod yn ôl at ei gilydd ar Fawrth 9fed i rannu newidiadau a wnaed ac archwilio syniadau tymor hir o’r hyn y gallai’r dyfodol fod.
Peidiwch oedi – mae’r sesiwn yn agored i 10 ysgol yn unig.
Y cyntaf i’r felin gaiff falu!
Pan fyddwch chi’n cofrestru, byddwch chi’n derbyn pecyn gweithgaredd gydag arweiniad ar sut i ddatblygu meddwl ac adnoddau ar y pwnc ar gyfer eich dosbarth a’ch myfyrwyr.
Mae hyn yn cynnwys cyflwyniad a gweithgareddau gan gynnwys cyflwyniad cam wrth gam ar sut i baratoi ar gyfer Model y Cenhedloedd Unedig.
Mae’r prosiect hwn yn ffordd wych o ennyn diddordeb myfyrwyr â phwrpas dinasyddiaeth foesegol y Cwricwlwm Newydd yng Nghymru. Mae’n gyfle gwych i Gynghorau Ysgol weithio gyda’i gilydd i greu newidiadau, neu fel cyfle unigryw i ddeall ein dylanwad posib ar ddyfodol gwell.
Bydd o leiaf un ddirprwyaeth i bob ysgol (gydag opsiwn am fwy) yn ymuno â’r Senedd trwy Zoom ar ddydd Iau 18fed Tachwedd am 9.30 yn y bore.
Os hoffech gael gwybod mwy am feddwl am y dyfodol, y digwyddiad a’i adnoddau, CLICWCH YMA.