Environmental challenges in China and Beyond

Map Unavailable

Date/Time
Date(s) - 24/05/2022
6:00 pm - 7:00 pm

Categories No Categories


(event happening in-person and online)

Mae cloc enwog Dydd y Farn Bwletin y Gwyddonwyr Atomig wedi’i osod ar 100 eiliad tan Armagedon, nid yn unig oherwydd arfau niwclear ac arfau dinistr torfol eraill ond hefyd yr argyfwng amgylcheddol parhaus. Rhwng rhyfel Putin a’i siarad difeddwl yn bygwth defnyddio arfau niwclear tactegol a’n hamgylchedd yn dirywio, byddwn i wedi gosod y cloc ar 30 eiliad tan Armagedon.

O ystyried canlyniadau COP26 a Phanel Rhynglywodraethol digalon diweddar y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, wedi dweud “bod y byd yn cerdded yn ei gwsg i drychineb hinsawdd”. Tsieina yw arweinydd y byd o ran allyrru nwyon tŷ gwydr gyda’i dibyniaeth ormodol ar lo a ffynonellau tanwydd llygrol eraill. A fydd Tsieina yn gallu cyflawni ei haddewid i gyrraedd brig allyriadau CO2 erbyn 2030 a chyflawni allyriadau sero-net cyn 2060? A ellir dad-wneud y difrod, ac os nad yw hyn yn bosib, beth yw’r canlyniadau?

Mae’n bleser gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor gynnal sgwrs gan Dr Harvey Dzodin, siaradwr ac ymgynghorydd hynod boblogaidd yn Tsieina a thramor.

Ar ôl gyrfa ddisglair yn llywodraeth yr Unol Daleithiau a’r cyfryngau, mae Dr Harvey Dzodin ar hyn o bryd yn golofnydd i’r papur newydd China Daily sydd â’i swyddfa yn Beijing, yn sylwebydd ar Rwydwaith Deledu Fyd-eang Tsiena ac ar Radio Rhyngwladol Tsiena ymhlith cyfryngau eraill. Mae Dr Dzodin yn Uwch Gymrawd o Ganolfan Tsieina a Globaleiddio, yn ogystal ag yn Uwch Ymgynghorydd Canolfan Ymchwil Cyfathrebu Delweddau Genedlaethol Prifysgol Tsinghua.

[efsbutton size=”” color_class=”” align=”left” type=”link” target=”false” title=”Cofrestrwch yma (ar-lien)” link=”https://www.eventbrite.co.uk/e/environmental-challenges-in-china-and-beyond-virtual-attendance-tickets-328054087607″]

[efsbutton size=”” color_class=”” align=”left” type=”link” target=”false” title=”Cofrestrwch yma (Digwyddiad mewn person)” link=”https://www.eventbrite.co.uk/e/environmental-challenges-in-china-and-beyond-in-person-tickets-327297554797″]