Date/Time
Date(s) - 23/11/2018
6:00 pm - 9:30 pm
Location
Temple of Peace and Health
Categories No Categories
Ail-ddehongli ‘Mecca Newydd’ ar gyfer heddiw
Dydd Gwener 23 o Dachwedd – tocynnau yn unig
Rhan o’r Ŵyl Fod yn Ddynol, gan gynnwys perfformiad newydd a arweinir gan Gentle/Radical gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Agorwyd Teml Heddwch Caerdydd ar 23ain o Dachwedd 1938, wedi’i dylunio fel cyrchfanpererindod, cysegrfa y gallai pobl Cymru orymdeithio iddi ac ymroi eu hunain iddi – ‘Mecca newydd’ ei hoes, ar gyfer pobl o bob cred neu ddim cred. Lai na blwyddyn yn ddiweddarach, chwalwyd y freuddwyd hon gan yr Ail Ryfel Byd.
80 mlynedd yn ddiweddarach, ymunwch â ni i ddathlu egwyddorion sylfaenol y Deml, sef heddwch, cyfiawnder ac iechyd. Dewch i gymryd rhan yn ail-gread yr 21ain Ganrif o Drefn y Gwasanaeth gwreiddiol, gan gyfuno cerdd dafod, perfformiad a chân. Drwy ddyfyniadau o areithiau 1938, byddwch yn datgelu’r stori y tu ôl i’r adeilad hynod hwn; ochr yn ochr â’r hanes, bydd y gwasanaeth yn cynnwys ymatebion creadigol cyfoes i’r Deml, gan gynnwys gwaith newydd gan y gyfansoddwraig adnabyddus Helen Chadwick. Gyda’n gilydd, gallwn ailgysegru Neuadd Farmor y Deml yn ôl i’w henw gwreiddiol, ‘Neuadd y Cenhedloedd’. Ar ôl y gwasanaeth, bydd gennych gyfle i archwilio’r adeilad Celf Deco syfrdanol hwn, ymweld â’r Gladdgell a Llyfr Cofio Cymru.
6yh Drysau’n agor; DerbyniadMasnach Deg (gwin a chaws) yn y Fynedfa.
Perfformiad ‘Mecca Newydd’: Ail-gread o’r seremoni agoriadol ac Ailgysegru Neuadd y Cenhedloedd.
Teithiau hunan-dywys o’r Deml a gosodiadau arddangos yn archwilio Treftadaeth Heddwch Cymru.
Arddangosfa Tân Gwyllt Teml80Derbyniad Alumni Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn Siambr y Cyngor, gan gynnwys Lansiad Ffilm a darlleniad gan Artistiaid Preswyl(drwy wahoddiad)