Gala a Pherfformiad i Ddathlu Pen-blwydd y Deml yn 80

Ail-ddehongli ‘Mecca Newydd’ ar gyfer heddiw

Dydd Gwener 23 o Dachwedd – tocynnau yn unig

Rhan o’r Ŵyl Fod yn Ddynol, gan gynnwys perfformiad newydd a arweinir gan Gentle/Radical gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Agorwyd Teml Heddwch Caerdydd ar 23ain o Dachwedd 1938, wedi’i dylunio fel cyrchfanpererindod, cysegrfa y gallai pobl Cymru orymdeithio iddi ac ymroi eu hunain iddi – ‘Mecca newydd’ ei hoes, ar gyfer pobl o bob cred neu ddim cred. Lai na blwyddyn yn ddiweddarach, chwalwyd y freuddwyd hon gan yr Ail Ryfel Byd.

 

80 mlynedd yn ddiweddarach, ymunwch â ni i ddathlu egwyddorion sylfaenol y Deml, sef heddwch, cyfiawnder ac iechyd. Dewch i gymryd rhan yn ail-gread yr 21ain Ganrif o Drefn y Gwasanaeth gwreiddiol, gan gyfuno cerdd dafod, perfformiad a chân. Drwy ddyfyniadau o areithiau 1938, byddwch yn datgelu’r stori y tu ôl i’r adeilad hynod hwn; ochr yn ochr â’r hanes, bydd y gwasanaeth yn cynnwys ymatebion creadigol cyfoes i’r Deml, gan gynnwys gwaith newydd gan y gyfansoddwraig adnabyddus Helen Chadwick. Gyda’n gilydd, gallwn ailgysegru Neuadd Farmor y Deml yn ôl i’w henw gwreiddiol, ‘Neuadd y Cenhedloedd’. Ar ôl y gwasanaeth, bydd gennych gyfle i archwilio’r adeilad Celf Deco syfrdanol hwn, ymweld â’r Gladdgell a Llyfr Cofio Cymru.

6yh Drysau’n agor; DerbyniadMasnach Deg (gwin a chaws) yn y Fynedfa.

Perfformiad ‘Mecca Newydd’: Ail-gread o’r seremoni agoriadol ac Ailgysegru Neuadd y Cenhedloedd.

Teithiau hunan-dywys o’r Deml a gosodiadau arddangos yn archwilio Treftadaeth Heddwch Cymru.

Arddangosfa Tân Gwyllt Teml80Derbyniad Alumni Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn Siambr y Cyngor, gan gynnwys Lansiad Ffilm a darlleniad gan Artistiaid Preswyl(drwy wahoddiad)

https://www.eventbrite.co.uk/e/temple-80-anniversary-gala-evening-gala-a-pherfformiad-i-ddathlu-pen-blwydd-y-deml-yn-80-tickets-48443918063