Gwaddol Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf
Bydd Syr Deian Hopkin, Cadeirydd Cymru’n Cofio a Chynghorydd Arbennig y Prif Weinidog yn rhannu myfyrdodau ar waddol cyfnod y canmlwyddiant yng Nghymru – i siapio trafodaeth ymhlith grwpiau cymdeithas sifil, academyddion a sefydliadau sydd wedi bod yn rhan o raglen ‘Cymru’n Cofio 2014-18’. Beth ydyn ni wedi’i ddysgu o goffadwriaeth? Beth fydd y gwaddol? Sut gall y gwersi o’r Rhyfel Byd Cyntaf, a’r ymgais i sicrhau heddwch, siapio rôl Cymru mewn byd sy’n gwrthdaro, y tu hwnt i Brexit a thuag at y can mlynedd nesaf? Cefnogir gan Gymru’n Cofio, ac Academi Heddwch Cymru