Gweminar: Taith – Rhaglen Cyfnewidfa Dysgu Ryngwladol

Map Unavailable

Date/Time
Date(s) - 13/04/2022
2:00 pm - 3:00 pm

Categories


A ydych yn cefnogi pobl ifanc a gwirfoddolwyr a hoffai gymryd rhan mewn cyfnewidfeydd rhyngwladol? A oes gan eich mudiad ddiddordeb mewn cydweithio â phartneriaid rhyngwladol? Ymunwch â’n gweminar i ddarganfod sut y gall Taith eich helpu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ei rhaglen Taith newydd yn ddiweddar a fydd yn galluogi pobl yng Nghymru i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio ar draws y byd, tra’n caniatáu i mudiadau yng Nghymru wahodd partneriaid a dysgwyr rhyngwladol i wneud yr un fath yma yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn agored i ddysgwyr, gwirfoddolwyr a staff mewn lleoliadau addysg o bob math, gan gynnwys mudiadau ieuenctid. Yn ogystal â symudedd cyfranogwyr, bydd y rhaglen hefyd yn cefnogi prosiectau cydweithredol rhyngwladol a meithrin gallu ar gyfer cyfnewidfeydd rhyngwladol. Mae ceisiadau am symudedd cyfranogwyr bellach ar agor tan 12 Mai 2022.

Ymunwch â ni am weminar mewn partneriaeth â Taith, CWVYS, BGCW a WCIA i ddysgu mwy am Taith, sut y gall eich mudiad gymryd rhan, a’r gefnogaeth sydd ar gael i chi. Byddwch hefyd yn clywed am GLOBAL STEPS sy’n offeryn i helpu gwirfoddolwyr i adnabod, gwella a chyfathrebu’r ystod o sgiliau y maent yn eu datblygu wrth wirfoddoli dramor.

Cynhelir y weminar ar 13 Ebrill 2022, rhwng 2 a 3pm.

Anfonir dolen ymuno atoch yn nes at y dyddiad.