Gwobrau Heddychwyr Ifanc 2022 y dyddiad cau

Map Unavailable

Date/Time
Date(s) - 10/06/2022
12:00 am

Categories


Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad Gwobrau Heddychwyr Ifanc Cymru 2022. Trefnir y gwobrau blynyddol hyn mewn partneriaeth ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen!

Maen nhw yn  dathlu pobl ifanc (rhwng 5 a 25 blwydd oed) sydd wedi cyfrannu at heddwch, cynaladwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang yn eu hysgol, grŵp ieuenctid neu gymuned leol mewn amryw ffordd.  Caniateir cyfraniadau gan unigolion a grwpiau ac mae’r categorïau yn cynnwys ysgrifennu creadigol, celf a dinasyddiaeth weithredol.  Nid oes rhaid i’r gwaith a gyflwynir fod yn newydd; gall gynnwys prosiectau mae pobl ifanc wedi bod yn gweithio arnynt yn yr ysgol neu wrth baratoi at yr Eisteddfod ysgol.  Caiff enillwyr eu gwobrwyo ar lwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ystod yr wythnos yn dechrau 5 Gorffennaf, 2022.

A oes gennych ddiddordeb?  Y dyddiad cau eleni yw 10 Mehefin, 2022.  Cysylltwch â  janeharries@wcia.org.uk am wybodaeth bellach am y categorïau, y telerau ac amodau ac am ffurflen gais.

Gwobrau Heddychwyr Ifanc 2020 | Young Peacemakers Awards 2020: