Hawlio Heddwch – Gweithdy Cennin Pedr ffelt @ Sain Ffagan
24 Gorffennaf 2024 , 11yb – 1yp
Dewch i ymuno â ni i greu cennin Pedr heddwch. Nid yn unig y mae cennin Pedr yn cynrychioli diwylliant Cymru, ond maen nhw hefyd wedi bod yn symbol o obaith ers Apêl Heddwch Menywod Cymru yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd bathodynnau lapel cardfwrdd eu dosbarthu, ynghyd â niferoedd helaeth o fylbiau cennin Pedr ar gyfer ‘Diwrnodau Cennin Pedr’ a gyfrannodd at incwm Undeb Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd.
Nod y sesiwn hon yw i gyfranogwyr greu dwy genhinen Pedr, un i fynd adref gyda chi a’r llall i’w gadael yn yr Amgueddfa gyda neges heddwch.
Cynhelir y gweithdy hwn ar y cyd ag Academi Heddwch i ddathlu 100 mlynedd ers Deiseb Heddwch Menywod Cymru.
Apêl Merched dros Heddwch, 1923-24
Bydd yr holl ddeunyddiau yn cael eu darparu. Mae’r gweithdy hwn yn addas i deuluoedd. Dylai pob cennin Pedr gymryd tua 15 munud i’w chreu.