Hyfforddiant i Lysgenhadon Heddwch Ifanc

Map Unavailable

Date/Time
Date(s) - 25/07/2022 - 26/07/2022
10:00 am - 5:30 pm

Categories


A wyt rhwng 14 ac 19 blwydd oed? 

A wyt yn teimlo’n gryf am faterion rhyngwladol megis y rhyfel yn y Wcráin ac Anghyfiawnder Hinsawdd?  

A hoffet ti wneud gwahaniaeth yn dy ysgol, dy gymuned neu ymhellach?   

Os felly, dere i gymryd rhan yn ein   

Hyfforddiant i Lysgenhadon Heddwch Ifanc  

Y Deml Heddwch ac Iechyd, Caerdydd  

25 – 26 Gorffennaf, 2022 

Yn ystod yr hyfforddiant rhyngweithiol hwn, byddi di yn: 

  • Archwilio ystyr bod yn Llysgennad Heddwch Ifanc  
  • Darganfod peth o dreftadaeth heddwch gyfoethog Cymru  

Dysgu am y mudiad heddwch yng Nghymru trwy gyfweld ag aelodau o grwpiau a gwleidyddion sydd yn weithredol dros heddwch  

  • Dysgu sgiliau perthnasol ar sut i ymgyrchu’n ddi-drais dros newid  
  • Dod i adnabod pobl ifanc o dramor a rhannu syniadau am sut i weithio dros heddwch yn rhyngwladol.  

Darperir llety ar 25 Gorffennaf yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd. 

Y mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim ond dim ond 6 o lefydd sydd ar gael, felly ymgeisia heddiw!  

Am wybodaeth bellach ac am ffurflen gais, anfona e-bost at janeharries@wcia.org.uk