Date/Time
Date(s) - 20/01/2022
7:30 pm
Categories No Categories
Fel rhan o gyfres: Heddwch, am ba hyd? Hoffwn eich gwahodd i weminar Militariaeth yng Nghymru.
7:30yh Nos Iau 20fed o Ionawr 2022
Bydd y gweminar yn bwrw golwg ar berthynas militariaeth a Chymru gyda mudiadau heddwch mwyaf blaenllaw yng Nghymru yn cymryd rhan.
Bydd cyflwyniad gan Rob Idris ar y mater yn cael ei dilyn gyda thrafodaeth agored. Nod y gweminar yw cychwyn ar broses o gydweithio’n agosach rhwng mudiadau ac unigolion er mwyn creu neges gyhoeddus gref gan y rhai sy’n dyheu am weld Cymru ddi-drais.
Gellir ymuno’r gweminar trwy ddilyn y linc yma https://us02web.zoom.us/j/87055735880?pwd=MVRGSG1iK0pUd1V6eTh6Qng4ZTNDUT09 a cheir mwy o wybodaeth ar ein gwefan.
Mae’r weminar am ddim ac yn agored i bawb. Bydd y digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael a chroeso i gyfraniadau yn y ddwy iaith. Er gwybodaeth bydd y sesiwn yn cael ei recordio.