MockCOP 2019 Wrecsam

Cofrestrwch eich ysgol i gymryd rhan mewn digwyddiad MockCOP, fel bod eich disgyblion Blwyddyn 9-12 yn cael y profiad o fynychu Cynhadledd Model y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, a chael cyfle i fod yn Hyrwyddwyr Hinsawdd. Ar gyfer y cynadleddau rhanbarthol, bydd gwlad yn cael ei dyrannu i bob ysgol ymchwilio iddi, yna byddant yn anfon grŵp o fyfyrwyr i’r gynhadledd sy’n cynrychioli’r wlad honno. Yn ystod y digwyddiad, byddant yn cynnig atebion a gwelliannau, ac yn trafod sefyllfa eu gwlad. Byddant yn cael cyfle hefyd, i gynllunio camau gweithredu yn eu hysgolion a’u cymunedau eu hunain ar newid yn yr hinsawdd. Mae hwn yn gyfle gwych i gyflwyno dysgu trawsgwricwlaidd ac i ddatblygu ‘dinasyddion gwybodus a moesegol o Gymru a’r byd’, ac ar yr un pryd, cefnogi dysgwyr i gael effaith ar y mater hollbwysig o newid yn yr hinsawdd. Bydd dysgwyr yn:

  • Datblygu gwybodaeth am wahanol genhedloedd a’u safbwyntiau
  • Dysgu sut mae cydweithio rhyngwladol a’r Cenhedloedd Unedig yn gweithio
  • Datblygu gwybodaeth am faterion byd-eang, a sut mae’n nhw’n cysylltu
  • Adeiladu sgiliau siarad a gwrando, ymchwil, trafod, datrys gwrthdaro a chyfaddawdu
  • Datblygu empathi a hunanhyder
  • Cynllunio prosiectau yn eu hysgolion a’u cymunedau eu hunain ar newid yn yr hinsawdd

Bydd pawb sy’n cymryd rhan mewn digwyddiad MockCOP rhanbarthol yn cael y cyfle i wneud cais i gymryd rhan mewn digwyddiad terfynol dros yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2019. Bydd hyn yn cynnwys digwyddiad MockCOP yn y Senedd, a’r cyfle i dreulio noson yn cael eich ysbrydoli, ac i aros dros nos am ddim. Bydd pawb sy’n mynychu’r digwyddiad terfynol hwn yn cael y cyfle i fod yn Hyrwyddwyr Hinsawdd.

Gofynnir i gyfranogwyr ddod â phecyn bwyd eu hunain i’r digwyddiadau rhanbarthol.

Mae Mock COP yn brosiect Maint Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), sydd yn cael ei ariannu gan ScottishPower Foundation. Er mwyn cyflwyno’r prosiect, bydd data cyfranogwyr yn cael eu rhannu rhwng y partneriaid a’r cyllidwr. Ewch i wefannau’r sefydliadau i gael rhagor o wybodaeth am eu Polisi Preifatrwydd.

Cofrestrwch yma