Permaculture and Nutrition in International Development

Loading Map....

Date/Time
Date(s) - 22/03/2019
9:30 am - 4:30 pm

Location
National Botanic Garden of Wales

Categories No Categories


ARBED Y DYDDIAD

Dewch i ddysgu mwy am brosiectau paramaethu yn Affrica Is-Sahara a rhannu eich profiadau o brosiectau tyfu bwyd a bwyta’n iach.

Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau gan Natalie Danford ac Elizabeth Westaway gyda sesiynau trafod yn archwilio sut y gallwn ni orau; rheoli iechyd y pridd i dyfu bwyd trwchus maeth, a phwysigrwydd addasu i amodau ac amgylchiadau.

Wedi’i gynnal yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Growing the Future; bydd bwyta bwyd iach yn cael ei graffu a chyfle i rwydweithio a dysgu gan grwpiau ac elusennau o bob cwr o Gymru.

Mae’r digwyddiad hwn am ddim yn agored i bob unigolyn, grŵp ac elusen sy’n gweithio neu sydd â diddordeb mewn Datblygu Rhyngwladol gyda ffocws Paramaethu neu Maethiad.

Mae’r digwyddiad yn gorffen am 3.30pm ond gyda mynediad am ddim i Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru, nid oes angen rhuthro gartref.

 

 

Ddim yn awyddus i yrru? Neu a ydych am leihau eich ôl troed carbon trwy roi lifft i rywun? Os hoffech chi rannu lifft, cysylltwch â Cath ar CathMoulogo@hubcymruafrica.org

 

Cofrestrwch yma