Perspectives from UK General Practice for Universal Health Coverage Internationally
Trefnir y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Chymdeithas Ddysgedig Cymru
Yr Athro Helen Stokes-Lampard yw Cadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, sy’n cynrychioli dros 50,000 o feddygon teulu yn y DU. Fe’i magwyd yn Abertawe, ac ar ôl cymhwyso mewn Meddygaeth yn 1996, bu’n gweithio ym maes Obstetreg a Gynaecoleg cyn hyfforddi’n feddyg teulu. Mae ei diddordebau clinigol yn cynnwys iechyd menywod a gofal diwedd oes. Mae’r Athro Stokes-Lampard yn fentor i feddygon mewn anhawster yng Nghanolbarth Lloegr ac ar hyn o bryd mae ar secondiad i Sefydliad y Gwyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Birmingham. Mae hi hefyd yn Is-Gadeirydd Academi’r Colegau Brenhinol Meddygol.